138:1 Clodforaf di â'm holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti.
138:2 Ymgrymaf tua'th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.
138:3 Y dydd y llefais, y'm gwrandewaist; ac a'm cadarnheaist â nerth yn fy enaid.
138:4 Holl frenhinoedd y ddaear a'th glodforant, O ARGLWYDD, pan glywant eiriau dy enau.
138:5 Canant hefyd am ffyrdd yr ARGLWYDD: canys mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.
138:6 Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell.
138:7 Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a'm bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a'th ddeheulaw a’m hachubai.
138:8 Yr ARGLWYDD a gyflawna â mi: dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.
SALM 139
139:1 I'r Pencerdd, Salm Dafydd. ARGLWYDD, chwiliaist, ac adnabuost fi.
139:2 Ti a adwaenost fy eisteddiad a'm cyfodiad: deelli fy meddwl o bell.
139:3 Amgylchyni fy llwybr a'm gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd.
139:4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, ARGLWYDD, ti a'i gwyddost oll.
139:5 Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf.
139:6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
139:7 I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?
139:8 Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti: Os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.
139:9 Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:
139:10 Yno hefyd y'm tywysai dy law, ac y'm daliai dy ddeheulaw.
139:11 Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o'm hamgylch.
139:12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.
139:13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam.
139:14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.
139:15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y'm cywreiniwyd yn iselder y ddaear.
139:16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.
139:17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O DDUW! mor fawr yw eu swm hwynt!
139:18 Pe cyfrifywn hwynt, amlach ydynt na'r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.
139:19 Yn ddiau, O DDUW, ti a leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf:
139:20 Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer
139:21 Onid cas gennyf, O ARGLWYDD, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i'th erbyn?
139:22 A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.
139:23 Chwilia fi, O DDUW, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;
139:24 A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.
SALM 140
140:1 I'r Pencerdd, Salm Dafydd. Gwared fi, O ARGLWYDD, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws:
140:2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel.
140:3 Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela.
140:4 Cadw fi, O ARGLWYDD, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.