140:5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela.
140:6 Dywedais wrth yr ARGLWYDD, Fy NUW ydwyt ti: clyw, O ARGLWYDD, lef fy ngweddïau.
140:7 ARGLWYDD DDUW, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
140:8 Na chaniatâ, ARGLWYDD, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.
140:9 Y pennaf o'r rhai a'm hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio.
140:10 Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.
140:11 Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw.
140:12 Gwn y dadlau yr ARGLWYDD ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.
140:13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.
SALM 141
141:1 Salm Dafydd. ARGLWYDD, yr wyf yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat.
141:2 2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl-darth, a dyrchafiad fy nwylo fel offrwm prynhawnol.
141:3 Gosod, ARGLWYDD, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.
141:4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o'u danteithion hwynt.
141:5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt.
141:6 Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau canys melys ydynt.
141:7 Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear.
141:8 Eithr arnat ti, O ARGLWYDD DDUW, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd.
141:9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd.
141:10 Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.
SALM 142
142:1 Maschil Dafydd; Gweddi pan oedd efe yn yr ogof. Gwaeddais â'm llef ar yr ARGLWYDD; â'm llef yr ymbiliais â’r ARGLWYDD.
142:2 Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.
142:3 Pan ballodd fy ysbryd o'm mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl.
142:4 Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.
142:5 Llefais arnat, O ARGLWYDD; dywedais, ti yw fy ngobaith, a'm rhan yn nhir y rhai byw.
142:6 Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi.
142:7 Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a fyddi da wrthyf.
SALM 143
143:1 Salm Dafydd. ARGLWYDD, clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.
143:2 Ac na ddos i farn â'th was: oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.
143:3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm.
143:4 Yna y pallodd fy ysbryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.
143:5 Cofiais y dyddiau gynt; myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.