Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/621

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

143:6 Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela.

143:7 O ARGLWYDD, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn gyffelyb i'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

143:8 Pâr i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore; oherwydd ynot ti y gobeithiaf: pâr i mi wybod y ffordd y rhodiwyf; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid.

143:9 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O ARGLWYDD: gyda thi yr ymguddiais.

143:10 Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di; canys ti yw fy NUW: tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb

143:11 Bywha fi, O ARGLWYDD, er mwyn dy enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.

143:12 Ac er dy drugaredd dinistria fy ngelynion, a difetha holl gystuddwyr fy enaid: oblegid dy was di ydwyf fi.


SALM 144

144:1 Salm Dafydd. Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i ryfela.

144:2 Fy nhrugaredd, a’m hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.

144:3 ARGLWYDD, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?

144:4 Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.

144:5 ARGLWYDD, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant.

144:6 Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.

144:7 Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;

144:8 Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.

144:9 Canaf i ti, O DDUW, ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti.

144:10 Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol.

144:11 Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster:

144:12 Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas:

144:13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd:

144:14 A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd.

144:15 Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddynt.


SALM 145


145:1 Salm Dafydd o foliant. Dyrchafaf di, fy NUW, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd.

145:2 Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd.

145:3 Mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy.

145:4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.

145:5 Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf.

145:6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd.

145:7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant.

145:8 Graslon a thrugarog yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.

145:9 Daionus yw yr ARGLWYDD i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.

145:10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O ARGLWYDD; a’th saint a’th fendithiant.

145:11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid: