Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/623

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

chymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan.

147:16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw.

147:17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef?

147:18 Efe a enfyn ei air, ac a’u tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, ar dyfroedd a lifant.

147:19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel.

147:20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr ARGLWYDD.


SALM 148

148:1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.

148:2 Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.

148:3 Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.

148:4 Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.

148:5 Molant enw yr ARGLWYDD oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.

148:6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.

148:7 Molwch yr ARGLWYDD. o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau:

148:8 Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:

148:9 Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd:

148:10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog:

148:11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:

148:12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau:

148:13 Molant enw yr ARGLWYDD: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd.

148:14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr ARGLWYDD.


SALM 149

149:1 Molwch yr ARGLWYDD. Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint.

149:2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin.

149:3 Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn.

149:4 Oherwydd hoffodd yr ARGLWYDD ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth.

149:5 Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau.

149:6 Bydded ardderchog foliant DUW yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo;

149:7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd;

149:8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn;

149:9 I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr ARGLWYDD.


SALM 150

150:1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch DDUW yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.

150:2 Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.

150:3 Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn.

150:4 Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ.

150:5 Molwch ef â symbylau soniarus: molwch ef â symbylau llafar.

150:6 Pob perchen anadl, molianned yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.