Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/624

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

LLYFR Y DIARHEBION.

PENNOD 1 1:1 Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel;

1:2 I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr;

1:3 I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;

1:4 I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr.

1:5 Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:

1:6 I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.

1:7 Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.

1:8 Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam:

1:9 Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.

1:10 Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna.

1:11 Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:

1:12 Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew:

1:13 Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail:

1:14 Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd:

1:15 Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy.

1:16 Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.

1:17 Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain.

1:18 Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu.

1:19 Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.

1:20 Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd:

1:21 Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd,

1:22 Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth?

1:23 Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.

1:24 Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;

1:25 Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd:

1:26 Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni;

1:27 Pan ddêl amoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi:

1:28 Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt:

1:29 Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr ARGLWYDD ni ddewisasant:

1:30 Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd.

1:31 Am hynny hwy a gant fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain.

1:32 Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha.

1:33 Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.

PENNOD 2 2:1 Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;