Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/625

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

2:2 Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall;

2:3 Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall;

2:4 Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig;

2:5 Yna y cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, ac y cei wybodaeth o DDUW.

2:6 Canys yr ARGLWYDD sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod.

2:7 Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodia yn uniawn.

2:8 Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint.

2:9 Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus

2:10 Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth;

2:11 Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw:

2:12 I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd;

2:13 Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch;

2:14 Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus;

2:15 Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:

2:16 I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau;

2:17 Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei DUW.

2:18 Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a’i llwybrau at y meirw.

2:19 Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd.

2:20 Fel y rhodiech di at hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn.

2:21 Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a’r rhai perffaith a gant aros ynddi.

2:22 Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.

PENNOD 3 3:1 Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion:

3:2 Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.

3:3 Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi : clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.

3:4 Felly y cei di ras a deall da gerbron DUW a dynion.

3:5 Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun.

3:6 Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.

3:7 Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni.

3:8 Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.

3:9 Anrhydedda yr ARGLWYDD â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth:

3:10 Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.

3:11 Fy mab, na ddirmyga gerydd yr ARGLWYDD; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef;

3:12 Canys y neb a fyddo DUW yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.

3:13 Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan.

3:14 Canys gwell yw ei fiarsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.

3:15 Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.

3:16 Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.

3:17 Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch.

3:18 Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.

3:19 Yr ARGLWYDD trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd.

3:20 Trwy ei wybodaeth ef yr hollt-