Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/626

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

odd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.

3:21 Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll.

3:22 Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf.

3:23 Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda.

3:24 Pan orweddych, nid ofni, ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys.

3:25 Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo.

3:26 Canys yr ARGLWYDD a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.

3:27 Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.

3:28 Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr.

3:29 Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.

3:30 Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.

3:31 Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef.

3:32 Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD y cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.

3:33 Melltith yr ARGLWYDD sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.

3:34 Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig.

3:35 Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.

PENNOD 4 4:1 Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall.

4:2 Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith.

4:3 Canys yr oeddwn yn fab i’m tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam.

4:4 Efe a’m dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw.

4:5 Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau.

4:6 Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di.

4:7 Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall.

4:8 Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.

4:9 Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.

4:10 Gwrando, fy mab, a derbyn ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir.

4:11 Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb.

4:12 Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng: a phan redech, ni thramgwyddi.

4:13 Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi. cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.

4:14 Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.

4:15 Gochel hi, na ddos ar hyd-ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.

4:16 Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddyntn gwympo rhyw ddyn.

4:17 Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.

4:18 Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.

4:19 Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.

4:20 Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion.

4:21 Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon.

4:22 Canys bywyd ydynt i’r neb an caffont, ac iechyd i’w holl gnawd.

4:23 Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.

4:24 Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.

4:25 Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen.