Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/628

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gan yr ARGLWYDD: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef:

6:17 Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a’r dwylo a dywalltant waed gwirion,

6:18 Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni,

6:19 Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.

6:20 Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam.

6:21 Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf.

6:22 Pan rodiech, hi a’th gyfarwydda; pan orweddych, hi a’th wylia; pan ddeffroych, hi a gydymddiddan â thi.

6:23 Canys cannwyll yw y gorchymyn; a goleuni yw y gyfraith; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg:

6:24 I’th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddieithr.

6:25 Na chwennych ei phryd hi yn dy galon; ac na ad iddi dy ddal â’i hamrantau.

6:26 Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr.

6:27 A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes, heb losgi ei ddillad?

6:28 A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losgi ei draed?

6:29 Felly, pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog; y neb a gyffyrddo â hi, ni bydd lân.

6:30 Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid, pan fyddo arno newyn:

6:31 Ond os delir ef, efe a dâl yn saith ddyblyg; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ.

6:32 Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd heb synnwyr; y neb a’i gwnêl, a ddifetha ei enaid ei hun.

6:33 Archoll a gwarth a gaiff efe; a’i gywilydd ni ddileir.

6:34 Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial.

6:35 Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn; ac ni fodlonir ef, er rhoi rhoddion lawer.

PENNOD 7 7:1 Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi.

7:2 Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad.

7:3 Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon.

7:4 Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares:

7:5 Fel y’th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw a’r ymadrodd gwenieithus.

7:6 Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt,

7:7 A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo,

7:8 Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i’w thŷ hi.

7:9 Yn y cyfnos gyda’r hwyr, pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll:

7:10 Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanddi ymddygiad putain, ac â chalon ddichellgar.

7:11 (Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ:

7:12 Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)

7:13 Hi a ymafaelodd ynddo, ac a’i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho,

7:14 Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned:

7:15 Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwiho am dy wyneb; a chefais afael arnat.

7:16 Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft.

7:17 Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes a sinamon.

7:18 Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad.

7:19 Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell:

7:20 Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol.

7:21 Hi a’i troes ef â’i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a’i cymhellodd ef.

7:22 Efe a’i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i’r lladdfa, neu