Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/629

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

fel ynfyd yn myned i’r cyffion i’w gosbi:

7:23 Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i’r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.

7:24 Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau.

7:25 Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi.

7:26 Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer â laddodd hi.

7:27 Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.

PENNOD 8 8:1 Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain?

8:2 Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll.

8:3 Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain:

8:4 Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais.

8:5 Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus.

8:6 Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn.

8:7 Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni.

8:8 Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd.

8:9 Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth.

8:10 Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig

8:11 Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.

8:12 Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.

8:13 Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi.

8:14 Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.

8:15 Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder.

8:16 Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear.

8:17 Y sawl a’m carant i, a garaf finnau; a’r sawl a’m ceisiant yn fore, a’m cânt.

8:18 Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder.

8:19 Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig.

8:20 Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn:

8:21 I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.

8:22 Yr ARGLWYDD a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed.

8:23 Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear.

8:24 Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd.

8:25 Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd:

8:26 Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na’r meysydd, nac uchder llwch y byd.

8:27 Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder:

8:28 Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchbetn a phan nerthodd efe ffynhon-nau y dyfnder:

8:29 Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear:

8:30 Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser;

8:31 Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.

8:32 Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i.