Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/647

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

31:20 Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus.

31:21 Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.

31:22 Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor.

31:23 Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad.

31:24 Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr.

31:25 Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd.

31:26 Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi.

31:27 Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd.

31:28 Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi:

31:29 Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll.

31:30 Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr ARGLWYDD, hi a gwy gaiff glod.

31:31 Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.


LLYFR ECCLESIASTES NEU Y PREGETHWR

PENNOD 1

1:1 Geirau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.

1:2 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl.

1:3 Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul?

1:4 Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth.

1:5 Yr haul hefyd a gyfyd, a’r haul a fachlud, ac a brysura i’w le lle y mae yn codi.

1:6 Y gwynt a â i’r deau, ac a amgylcha i’r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd.

1:7 Yr holl afonydd a redant i’r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o’r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith.

1:8 Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust a chlywed.

1:9 Y peth a fu, a fydd; a’r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul.

1:10 A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni.

1:11 Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.

1:12 Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem;

1:13 Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion i ymguro ynddo.

1:14 Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.

1:15 Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol.

1:16 Mi a ymddiddenais â’m calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Jerwsalem; a’m calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth.

1:17 Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd.

1:18 Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a’r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.