Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/649

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ond i’r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru, i’w roddi i’r neb a fyddo da gerbron Duw. Hynny hefyd sydd wagedd, a gorthrymder ysbryd.

PENNOD 3

3:1 Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd:

3:2 Amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd;

3:3 Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu;

3:4 Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio;

3:5 Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio,

3:6 Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith;

3:7 Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd;

3:8 Amser i garu, ac amser i gasáu ; amser i ryfel, ac amser i heddwch.

3:9 Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yrjiyn y mae yn llafurio?

3:10 Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion, i ymflino ynddo.

3:11 Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o’r dechreuad hyd y diwedd.

3:12 Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.

3:13 A bod i bob dyn fwyfa ac yfed, a mwynhau daioni o’i holl lafur; rhodd Duw yw hynny.

3:14 Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef.

3:15 Y peth a fu o’r blaen sydd yr awr hon; a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio.

3:16 Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd.

3:17 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a’r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno.

3:18 Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i DDUW eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt.

3:19 Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i’r anifeiliaid; yr un digwydd sydd iddynt: fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y llall; ie, yr un chwythad sydd iddynt oll; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail: canys gwagedd yw y cwbl.

3:20 Y mae y cwbl yn myned i’r un lle: pob un sydd o’r pridd, a phob un a dry i’r pridd eilwaith.

3:21 Pwy a edwyn ysbryd dyn, yr hwn sydd yn esgyn i fyny, a chwythad anifail,. yr hwn sydd yn disgyn i waered i’r ddaear?

3:22 Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu, yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a’i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?

PENNOD 4

4:1 Felly mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul: ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i’w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i’w cysuro.

4:2 A mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na’r byw y rhai sydd yn fyw eto.:

4:3 Gwell na’r ddau yw y neb ni bu erioed, yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd dan haul.

4:4 A mi a welais fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd. .

4:5 Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd, ac a fwyty ei gnawd ei hun.