Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/650

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

4:6 Gwell yw llonaid llaw trwy lonyddwch, na llonaid dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd.

4:7 Yna mi a droais, ac a welais wagedd dan yr haul.

4:8 Y mae un yn unig, ac heb ail; ie, nid oes iddo na mab na brawd; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll: ie, ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth; ni ddywed efe, I bwy yr ydwyf yn llafurio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch? Hyn hefyd sydd wagedd, a dyma drafferth flin.

4:9 Gwell yw dau nag un, o achos bod iddynt wobr da am eu llafur.

4:10 Canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall: ond gwae yr unig; canys pan syrthio efe, nid oes ail i’w gyfodi.

4:11 Hefyd os dau a gydorweddant, hwy a ymgynhesant; ond yr unig, pa fodd y cynhesa efe?

4:12 Ac os cryfach fydd un nag ef, dau a’i gwrthwynebant yntau; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys.

4:13 Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd, yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach:

4:14 Canys y naill sydd yn dyfod allan o’r carchardy i deyrnasu, a’r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth, yn myned yn dlawd.

4:15 Mi a welais y rhai byw oll y rhai sydd yn rhodio dan yr haul, gyda’r ail fab yr hwn a saif yn ei le ef.

4:16 Nid oes diben ar yr holl bobl, sef ar y rhai oll a fu o’u blaen hwynt; a’r rhai a ddêl ar ôl, ni lawenychant ynddo: gwag¬edd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd.

PENNOD 5

5:1 Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ DDUW, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid, canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg.

5:2 Na fydd ry brysur â’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron Duw: canys Duw sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.

5:3 Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau.

5:4 Pan addunedech adduned i Dduw nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl.

5:5 Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu.

5:6 Na ad i’th enau beri i’th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai Duw wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo?

5:7 Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di DDUW.

5:8 Os gweli dreisio y tlawd, a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn: canys y mae yr hwn sydd uwch na’r uchaf yn gwylied, ac y mae un sydd uwch na hwynt.

5:9 Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw.

5:10 Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na’r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd.

5:11 Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i’w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i’w perchennog, ond eu gweled â’u llygaid?

5:13 Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu.

5:13 Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i’w perchennog.

5:14 Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef.

5:15 Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o’i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law.

5:16 A hyn hefyd sydd ofid blin; yn hollol y modd y daeth, felly yr a efe ymaith: a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt?

5:17 Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn dicter mawr, gofid, a llid.

5:18 Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef.