Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/651

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

5:19 Ie, i bwy bynnag y rhoddes Duw gyfoeth a golud; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt, ac i gymryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn.

5:20 Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd; am fod Duw yn ateb i lawenydd ei galon ef.

PENNOD 6

6:1 Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion:

6:2 Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai; a Duw heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a’i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.

6:3 Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir a daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef.

6:4 Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a’i enw a guddir â thywyllwch.

6:5 Yntau ni welodd mo’r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall.

6:6 Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynydd¬oedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i’r un lle yr â pawb?

6:7 Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef.

6:8 Canys pa ragoriaeth sydd i’r doeth mwy nag i’r annoeth? beth sydd i’r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw?

6:9 Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wag¬edd a gorthrymder ysbryd.

6:10 Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â’r neb sydd drech nag ef.

6:11 Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well?

6:12 Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?

PENNOD 7

7:1 Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth.

7:2 Gwell yw myned i dŷ galar, na myned i dŷ gwledd: canys hynny yw diwedd pob dyn; a’r byw a’i gesyd at ei galon.

7:3 Gwell yw dicter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon.

7:4 Calon doethion fydd yn nhŷ y galar; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd.

7:5 Gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando can ffyliaid.

7:6 Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain, dan grochan. Dyma wagedd hefyd.

7:7 Yn ddiau trawsedd a ynfyda y doeth, a rhodd a ddifetha y galon.

7:8 Gwell yw diweddiad peth na’i ddechreuad: gwell yw y dioddefgar o ysbryd na’r balch o ysbryd.

7:9 Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio: oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid.

7:10 Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o’r blaen yn well na’r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn.

7:11 Da yw doethineb gydag etifeddiaeth: ac o hynny y mae elw i’r rhai sydd yn gweled yr haul.

7:12 Canys cysgod yw doethineb, a chysgod yw arian: ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i’w pherchennog.

7:13 Edrych ar orchwyl Duw: canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe?

7:14 Yn amser gwynfyd bydd lawen, ond yn amser adfyd ystyria: Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall, er mwyn na châi dyn ddim ar ei ôl ef.

7:15 Hyn oll a welais yn nyddiau fy ngwagedd: y mae un cyfiawn yn diflannu yn ei gyfiawnder, ac y mae un annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni.

7:16 Na fydd ry gyfiawn; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth: paham y’th ddifethit dy hun?

7:17 Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffôl: paham y byddit farw cyn dy amser?