Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/652

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

7:18 Da i ti ymafael yn hyn; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno DDUW, a ddaw allan ohonynt oll.

7:19 Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas.

7:20 Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha.

7:21 Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio.

7:22 Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon, ddarfod i ti dy hun felltithio eraill.

7:23 Hyn oll a brofais trwy ddoethineb; mi a ddywedais, Mi a fyddaf ddoeth; a hithau ymhell oddi wrthyf.

7:24 Y peth sydd bell a dwfn iawn, pwy a’i caiff?

7:25 Mi a droais â’m calon i wybod, ac i chwilio, ac i geisio doethineb, a rheswm; ac i adnabod annuwioldeb ffolineb, sef ffolineb ac ynfydrwydd:

7:26 Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau, y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau, a’i dwylo yn rhwymau: y neb sydd dda gan DDUW, a waredir oddi wrthi hi; ond pechadur a ddelir ganddi.

7:27 Wele, hyn a gefais, medd y Pregethwr, wrth chwilio o’r naill beth i’r llall, i gael y rheswm;

7:28 Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano, ac ni chefais: un gŵr a gefais ymhlith mil; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais.

7:29 Wele, hyn yn unig a gefais; wneuthur o DDUW ddyn yn uniawn: ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychmygion.

PENNOD 8

8:1 Pwy sydd debyg i’r doeth? a phwy a fedr ddeongl peth? doethineb gŵr a lewyrcha ei wyneb, a nerth ei wyneb ef a newidir.

8:2 Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorchymyn y brenin, a hynny oherwydd llw Duw.

8:3 Na ddos ar frys allan o’i olwg ef; na saf mewn peth drwg: canys efe a wna a fynno ei hun.

8:4 Lle y byddo gair y brenin, y mae gallu: a phwy a ddywed wrtho, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur?

8:5 Y neb a gadwo y gorchymyn, ni wybydd oddi wrth ddrwg; a chalon y doeth a edwyn amser a barn.

8:6 Canys y mae amser a barn i bob amcan; ac y mae trueni dyn yn fawr arno.

8:7 Canys ni ŵyr efe beth a fydd: canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd?

8:8 Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd, i atal yr ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog.

8:9 Hyn oll a welais i, a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul: y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo.

8:10 Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly. Gwagedd yw hyn hefyd.

8:11 Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg.

8:12 Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith, ac estyn ei ddyddiau ef; eto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i’r rhai a ofnant DDUW, y rhai a arswydant ger ei fron ef.

8:13 Ond ni bydd daioni i’r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau, y rhai sydd gyffelyb i gysgod; am nad yw yn ofni gerbron Duw.

8:14 Y mae gwagedd a wneir ar y ddaear; bod y cyfiawn yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drygionus; a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn. Mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd.

8:15 Yna mi a ganmolais lawenydd, am nad oes dim well i ddyn dan haul, na bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddyn o’i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo dan yr haul.

8:16 Pan osodais i fy nghalon i wybod doethineb, ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaear, (canys y mae ni wêl hun â’i lygaid na dydd na nos;)

8:17 Yna mi a edrychais ar holl