Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/653

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

waith Duw, na ddichon dyn ddeall y gwaith a wneir dan haul: oblegid er i ddyn lafurio i geisio, eto nis caiff; ie, pe meddyliai y doeth fynnu gwybod, eto ni allai efe gael hynny.

PENNOD 9

9:1 Er hyn oll mi a ystyriais yn fy nghalon, i ddangos hyn oll, bod y cyfiawn, a’r doethion, a’u gweithredoedd, yn llaw Duw: ni ŵyr dyn gariad, neu gas, wrth yr hyn oll sydd o’u blaen.

9:2 Yr un peth a ddamwain i bawb fel ei gilydd: yr un peth a ddamwain i’r cyfiawn, ac i’r annuwiol; i’r da ac i’r glân, ac i’r aflan; i’r neb a abertha, ac i’r neb nid abertha: fel y mae y da, felly y mae y pechadur; a’r neb a dyngo, fel y neb a ofno dyngu.

9:3 Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul, sef bod yr un diben i bawb: hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw, ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw.

9:4 Canys i’r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll, y mae gobaith: canys gwell yw ci byw na llew marw.

9:5 Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd.

9:6 Eu cariad hefyd, a’u cas, a’u cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul.

9:7 Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac yf dy win â chalon hyfryd: canys yn awr cymeradwy gan DDUW dy weithredoedd.

9:8 Bydded dy ddillad yn wynion bob amser; ac na fydded diffyg olew ar dy ben.

9:9 Dwg dy fyd yn llawen gyda’th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd, y rhai a roddes efe i ti dan yr haul, holl ddyddiau dy oferedd: canys dyna dy ran di yn y bywyd yma, ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul.

9:10 Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i’w wneuthur, gwna â’th holl egni: canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned.

9:11 Mi a droais, ac a welais dan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym, na’r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na’r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd: ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll.

9:12 Canys ni ŵyr dyn chwaith ei amser: fel y pysgod a ddelir â’r rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm; felly y delir plant dynion yn amser drwg, pan syrthio arnynt yn ddisymwth.

9:13 Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul, ac sydd fawr gennyf fi:

9:14 Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a’i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn:

9:15 A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â’i ddoethineb: eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw.

9:16 Yna y dywedais, Gwell yw doethineb na nerth: er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef.

9:17 Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd, rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid.

9:18 Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni.

PENNOD 10

10:1 Gwybed meirw a wnânt i ennaint yr apothecari ddrewi; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog oherwydd doethineb ac anrhydedd.

10:2 Calon y doeth sydd ar ei ddeheulaw; a chalon y ffôl ar ei law aswy.

10:3 Ie, y ffôl pan rodio ar y ffordd, sydd â’i galon yn pallu, ac y mae yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl.

10:4 Pan gyfodo ysbryd penadur yn dy erbyn, nac ymado â’th le: canys ymostwng a ostega bechodau mawrion.