Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/658

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol a chedrwydd.

5:16 Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.

PENNOD 6

6:1 I ba le yr aeth dy anwylyd, y decaf o’r gwragedd? i ba le y trodd dy anwyl¬yd? fel y ceisiom ef gyda thi.,

6:2 Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili.

6:3 Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a’m hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.

6:4 Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog.

6:5 Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a’m gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead.

6:6 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o’r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg.

6:7 Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.

6:8 Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi.

6:9 Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a’i hesgorodd: y merched a’i gwelsant, ac a’i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a’r gordderchwragedd, a hwy a’i canmolasant hi.

6:10 Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?

6:11 Euthum i waered i’r ardd gnau, i edrych am frwythydd y dyffryn, i weled, a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau.

6:12 Heb wybod i mi y’m gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib.

6:13 Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.

PENNOD 7

7:1 Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint.

7:2 Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili.

7:3 Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid.

7:4 Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Bethrabbim, dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.

7:5 Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.

7:6 Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a’m hyfrydwch!

7:7 Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a’th fronnau i’r grawnsypiau.

7:8 Dywedais, Dringaf i’r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawnganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau;

7:9 A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.

7:10 Eiddo fy anwylyd ydwy fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef.

7:11 Tyred, fy anwylyd, awn i’r maes, a lletywn yn y pentrefi.

7:12 Boregodwn i’r gwinllannoedid, edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau; yno y rhoddaf fy nghariad i ti.

7:13 Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau, newydd a hen, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.

PENNOD 8

8:1 O na bait megis brawd i mi, yn sugno bronnau fy mam! pan y’th gawn allan, cusanwn di; eto ni’m dirmygid.