Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/659

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

8:2 Arweiniwn, a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a’m dysgai: parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau.

8:3 Ei law aswy fyddai dan fy mhen, a’i law ddeau a’m cofleidiai.

8:4 Tynghedaf chwi, ferched Jerwsalem, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

8:5 Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg.

8:6 Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt.

8:7 Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dy am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.

8:8 Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani?

8:9 Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian, ac os drws yw hi, ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd.

8:10 Caer ydwyf fi, a’m bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd.

8:11 Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baalhamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian.

8:12 Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth hi.

8:13 O yr hon a drigi yn, y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.

8:14 Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.


LLYFR Y PROPHWYD ESAIAH

PENNOD 1

1:1 Gweledigaeth Eseia mab Amos, yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem, yn nyddiau Usseia, Jotham, Alias, a Heseceia, brenhinoedd Jwda.

1:2 Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau ddaear: canys yr ARGLWYDD a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn.

1:3 Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall.

1:4 O genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr ARGLWYDD, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ôl!

1:5 I ba beth y’ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a’r holl galon yn llesg.

1:6 O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gweliau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew.

1:7 Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir a dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.

1:8 Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan, megis llety mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaeëdig.

1:9 Oni buasai i ARGLWYDD y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buiasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.

1:10 Gwrandewch air yr ARGLWYDD tywysogion Sodom, clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorra.

1:11 Beth yw lluosowgrwydd eich