Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/663

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ddygant un bath, a lle homer a ddwg effa.

5:11 Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni enynno y gwin hwynt.

5:12 Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a’r nabl, y dympan, a’r bibell, a’r gwin: ond am waith yr ARGLWYDD nid edrychant, a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant.

5:13 Am hynny y caethgludwyd fy mhobl, am nad oes ganddynt wybodaeth: a’u gwŷr anrhydeddus sydd newynog, a’u lliaws a wywodd gan syched.

5:14 Herwydd hynny yr ymehangodd uffern, ac yr agorodd ei safn yn anferth; ac yno y disgyn eu gogoniant, a’u lliaws, a’u rhwysg, a’r hwn a lawenycha ynddi.

5:15 A’r gwrêng a grymir, a’r galluog a ddarostyngir, a llygaid y rhai uchel a iselir.

5:16 Ond ARGLWYDD y lluoedd a ddyrchefir mewn barn, a’r Duw sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder.

5:17 Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer; a dieithriaid a fwytânt ddiffeithfaoedd y breision.

5:18 Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd, a phechod megis â rhaffau men:

5:19 Y rhai a ddywedant, Brysied, a phrysured ei orchwyl, fel y gwelom; nesaed hefyd, a deued cyngor Sanct yr Israel, fel y gwypom.

5:20 Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw; ac am y da, Drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch: y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw.

5:21 Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun, a’r rhai deallgar yn eu golwg eu hun.

5:22 Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a’i dynion nerthol i gymysgu diod gadarn:

5:23 Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr, ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt.

5:24 Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith ARGLWYDD y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel.

5:25 Am hynny yr enynnodd llid yr AR¬GLWYDD yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a’u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.

5:26 Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd o bell, ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear: ac wele, ar frys yn fuan y deuant.

5:27 Ni bydd un blin na thramgwyddedig yn eu plith; ni huna yr un, ac ni chwsg: ac ni ddatodir gwregys ei lwynai, ac ni ddryllir carrai ei esgidiau.

5:28 Yr hwn sydd â’i saethau yn llymion, a’i holl fwâu yn anelog: carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr, a’i olwynion fel corwynt.

5:29 Ei ruad fydd fel llew; efe a rua fel cenawon llew: efe a chwyrna hefyd, ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth, efe a ddianc hefyd, ac a’i dwg ymaith yn ddiogel, ac ni bydd achubydd.

5:30 Ac efe a rua arnynt y dydd hwnnw, fel rhuad y môr: os edrychir ar y tir, wele dywyllwch, a chyfyngder, a’r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd.

PENNOD 6

6:1 Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr AR¬GLWYDD yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml.

6:2 Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai.

6:3 A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw AR¬GLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef.

6:4 A physt y rhiniogau. a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.

6:5 Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf; oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi,