ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd.
6:6 Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel:
6:7 Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod.
6:8 Clywais hefyd lef yr ARGLWYDD yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi.
6:9 Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond na ddeellwch; a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch.
6:10 Brasa galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chac eu llygaid, rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu.
6:11 Yna y dywedais. Pa hyd, ARGLWYDD? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd,
6:12 Ac i’r ARGLWYDD bellhau dynion, a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad.
6:13 Ac eto bydd ynddi ddegwm, a hi a ddychwel, ac a borir; fel y llwyfen a’r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt: felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi.
PENNOD 7
7:1 A bu yn nyddiau Ahas mab Jotham, mab Usseia brenin Jwda, ddyfid o Resin brenin Syria, a Pheca mab Rema¬leia, brenin Israel; i fyny tua Jerwsalem, i ryfela arni: ond ni allodd ei gorchfygu.
7:2 A mynegwyd i dŷ Dafydd, gan ddy¬wedyd, Syria a gydsyniodd ag Effraim. A’i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt.
7:3 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas, ti a Sear-jasub dy fab, wrth ymyl pistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr:
7:4 A dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remaleia:
7:5 Canys Syria, ac Effraim, a mab Remaleia, a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn, gan ddywedyd,
7:6 Esgynnwn yn erbyn Jwda, a blinwn hi, torrwn hi hefyd atom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi; sef mab Tabeal.
7:7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Ni saif, ac ni bydd hyn.
7:8 Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl.
7:9 Hefyd pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni chredwch, diau ni sicrheir chwi.
7:10 A’r ARGLWYDD a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd,
7:11 Gofyn i ti arwydd gan yr ARGLWYDD dy DDUW; gofyn o’r dyfnder, neu o’r uchelder oddi arnodd.
7:12 Ond Ahas a ddywedodd, Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr ARGLWYDD.
7:13 A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Dafydd; Ai bychan gennych flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw?
7:14 Am hynny yr ARGLWYDD ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel.
7:15 Ymenyn a mêl a fwyty efe; fel y medro ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da.
7:16 Canys cyn medru o’r bachgen ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da, y gwrthodir y wlad a meiddiaist, gan ei dau frenin.
7:17 Yr ARGLWYDD a ddwg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau, ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Effraim oddi wrth Jwda, sef brenin Asyria.
7:18 A bydd yn y dydd hwnnw, i’r AR¬GLWYDD chwibanu am y gwybedyn sydd yn eithaf afonydd yr Aifft, ac am y wenynen sydd yn nhir Asyria: