Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/667

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º3 A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, ac yn y distryw a ddaw o bell? at bwy y ffowch am gynhorthwy? a pha le y gadewch eich. gogoniant?

º4 Hebof fi y crymant dan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond ero y mae ei law ef yn estynedig.

º5?I Gwae Assur, gwialen fy llid, a’r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint.

º6 At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a’u gosod hwynt yn sathrfa megis torn yr heolydd.

º7 Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorn ymaith geahedloedd nid ychydig.

º8 Canys efe a ddywed, Onid yw fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd?

º9 Onid fel Charcemis yw Caino? onid fel Arpad yw Hamath? onid fel Damascus yw Samaria?

º10 Megis y cyrhaeddodd fy llaw deyrn* asoedd yr eilunod, a’r rhai yr oedd eu delwau cerfiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerwsalem a Samaria:

º11 Onid megis y gwneuthum i Samaria ac i’w heilunod, felly y gwnaf i Jerwsalem ac i’w delwau hithau?

º12 A bydd, pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, yr ymwelafa ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac a gogoniant uchelder ei lygaid ef:

º13 Canys dywedodd, Trwy nerth fy llaw y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb; oherwydd doeth ydwyf: ac mi a symudais derfynau pobloedd, a’u trysorau a ysbeiliais, ac a fwriais i’r llawr y trigolion fel gŵr grymus:

º14 A’m llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado, y cesglais yr holl ddaear; ac nid oedd a symudai adain, nac a agorai safn, nac a ynganai.

º15 A ymffrostia y fwycll yn erbyn yr hwn a gymyno a hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a’i tynno? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a’i codai hi i fyny, neu megis pe ymddyr¬chafai y ffon, fel pe na byddai yn bren.

º16 Am hynny yr hebrwng yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, ymhlith ei freision ef guini; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megis llosgiad tân.

º17 A bydd goleuni Israel yn dan, a’i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysg, ac a ysa ei ddrain a’i fieri mewn un dydd:

º18 Gogoniant ei goed hefyd, a’i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr.

º19 A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt.

º20 A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a’r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwy* ach ar yr hwn a’u trawodd; ond pwysant ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel, mewn gwirionedd.

º21 Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Jacob, at y Duw cadarn.

º22 Canys pe byddai dy bobl di Israel Sei tywod y môr, gweddill ohonynt a ddychwel: darfodiad terfynedig a Ufa drosodd mewn cyfiawnder.

º23 Canys darfodedigaeth, a honno yn derfynedig, a wna Arglwydd DDUW y lluoedd yng nghanol yr holl dir.

º24 Am hynny fel hyn y dywed Ar¬glwydd DDUW y lluoedd, Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion, nac ofna rhag yr Asyriad: a gwialen y’th dery di, ac efe a gyfyd ei ffon i’th erbyn, yn ôl ffordd yr Aifft.

º25 Canys eto .ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a’m digofaittt yn eu dinistr hwy.

º26 Ac ARGLWYDD y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn fill ffordd yr Aifft.

º27 A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a’i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad.

º28 Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw.

º29 Aethant trwy y rhyd, yn Geba y lletyasant: dychrynodd Rama; Gibea Saul a ffoes.

º30 Bloeddia a’th lef, merch Galim: par ei chlywed hyd Lais, O Anathofh dlawd.

º31 Ymbellhaodd Madmena: trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi,