Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/668

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º32 Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem.

º33 Wele, yr Arglwydd, ARGLWYDD y Iluoedd, yn ysgythru y gangen & dychryn: a’r rhai uchel o gyrff a dorrir ymaith, a’r rhai goruchel a ostyngir.

º34 Ac efe a dyr ymaith frysglwyni y coed a haearn; a Libanus trwy un cryfa gwymp.


PENNOD 11

º1 YNA y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef.

º2 Ac ysbryd yr ARGLWYDD a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD;

º3 Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr ARGLWYDD: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe.

º4 Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear a gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir.

º5 A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arennau.

º6 A’r blaidd a drig gyda’r oen, a’r llewpard a orwedd gyda’r myn; y llo hefyd, a chenau y llew, a’r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a’u harwain.

º7 Y fuwch hefyd a’r arth a borant yng¬hyd; eu llydnod a gydorweddant: y llew, fel yr ych, a bawr wellt.

º8 A’r plentyn sugno a chwery wrth dwil yr asb; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei ‘law.

º9 Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr ARGLWYDD, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr.

º10 y Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd: ag ef yr ymgais y cenhedloedd: a’i orffwysfa fydd yn ogoniant.

º11 Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Asyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr.

º12 Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd, ac a gynnull grwydraid Israel, ac a gasgl wasgaredigion Jwda o bedair congl y ddaear.

º13 Cenfigen Effraim a ymedy hefyd, a gwrthwynebwyr Jwda a dorrir ymaith: ni chenfigenna Effraim wrth Jwda, ac ni chyfynga Jwda ar Effraim.

º14 Ond hwy a ehedant ar ysgwyddau y Philistiaid tua’r gorllewin; ynghyd yr ysbeihant feibion y dwyrain: hwy a osodant eu llaw ar Edom a Moab, a meibion Ammon fydd mewn ufudd-dod iddynt.

º15 Yr ARGLWYDD hefyd a ddifroda dafod môr yr Aifft, ac a’i wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon, ac a’i tery hi yn y saith ffrwd, ac a wna fyned drosodd yn droetsych.

º16 A hi a fydd yn briffordd i weddill ei bobl ef y rhai a adewir o Asyria, megis ag y bu i Israel yn y dydd y daeth efe i fyny o dir yr Aifft.


PENNOD 12

º1 YNA y dywedi yn y dydd hwnnw, Molaf di, O ARGLWYDD: er i ti sorri wrthyf, dychwelir dy lid, a thi a’m cysuri.

º2 Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr AR¬GLWYDD DDUW yw fy nerth a’m can; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth.

º3 Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth.

º4 A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Molwch yr ARGLWYDD, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef.

º5 Cenwch i’r ARGLWYDD; canys godidowgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir.

º6 Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di.


PENNOD 13