Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/673

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

mhell, y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir, ac a sychant: torrir ymaith bob corsen a hesgen.

º7 Y papurfrwyn wrth yr afon, ar fin yr afon, a phob peth a heuwyd wrth yr afon, a wywa, a chweiir, ac ni bydd mwy.

º8 Y pysgodwyr hefyd a dristânt , a’r rhai oll a fwriant fachau i’r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyaeb y dyfroedd a lesgant.

º9 Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin, a’r rhai a weant rwydwaith.

º10 A hwy a dorrir yn eu bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau.

º11 Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd?

º12 Mae hwynt? mae dy ddoethion? a mynegant i ti yr awr hon, a gwybyddant pa gyngor a gymerodd ARGLWYDD y lluoedd yn erbyn yr Aifft.

º13 Tywysogion Soan a ynfydasant; twyllwyd tywysogion Noff, a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft.

º14 Cymysgodd yr ARGLWYDD ynddi ysbryd gwrchnysigrwydd; a hwy a wnaethant i’r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfciliorna meddwyn yn ei chwydfa.

º15 Ac ni bydd gwaith i’r Aifft, yr hwn a wnelo y pen na’r gloren, y gangen na’r frwynen.

º16 Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd; canys lii a ddychryna, ac,a ofna rhag ysgydwad llaw ARGLWYDD y lluoedd, yr hon a ysgydwa efe arni hi.

º17 A bydd tir Jwda yn arswyd i’r Aifft; pwy bynnag a’i cofia hi, a ofna ynddo ei hun, oherwydd cyngor ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.

º18 1 Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i ARGLWYDD y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un.

º19 Y dydd hwnnw y bydd allor i’r ARGLWYDD yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i’r ARGLWYDD gerllaw ei therfyn hi.

º20 Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i ARGLWYDD y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr ARGLWYDD eherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn ipdynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a’u gwared hwynt.

º21 A’r ARGLWYDD a adwaenir gan yr Aifft, ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr AR¬GLWYDD yn y dydd hwnnw: gwnant hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i’r ARGLWYDD, ac a’i talant.

º22 Yr ARGLWYDD hefyd a dery yr Aifft; efe a’i tery, ac a’i hiacha; hwythau a droant at yr ARGLWYDD, ac efe a’u gwrendy hwynt, ac a’u hiachS hwynt.

º23 A’r dydd hwnnw y bydd priffordd o’r Aifft i Asyria, ac yr a yr Asyriad i’r Aifft, a’r Eifftiad i Asyria: a’r Eifftiaid f fda’r Asyriaid a wasanaethant.

º24 Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda’r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir:

º25 Yr hwn a fendithia ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i, ac Asyria gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.


PENNOD 20

º1 VN y flwyddyn y daeth Tartan i Asdod, pan ddanfonodd Sargon brenin Asyria ef, ac yr ymladdodd yn erbyn Asdod ac a’i henillodd hi;

º2 Yr amser hwnnw y bu gair yr AR¬GLWYDD trwy law Escia mab Amos, gan ddywedyd, DOS, a datod y sachliain oddi am dy lwynau, a diosg dy esgidiau oddi am dy draed. Ac efe a wnaeth felly, gan rodio yn noeth, ac heb esgidiau.

º3 Dywedodd yr ARGLWYBD hefyd, Megis y rhodiodd fy ngwas Eseia yn noeth ac heb esgidiau dair blynedd yn arwydd ac yn argoel yn erbyn yr Aifft, ac yn erbyn Ethiopia,

º4 Peuy yr arwain brenin Asyria gaethiwed yr Aifft, a chaethglud Ethiopia, sef yn llaaciau a hynafgwyr, yn noethion ac heb esgidiau, ac yn dinnoeth, yn warth i’r Aifft.

º5 Brawy chant a chywilyddiant o ashes Ethiopia eu gobaith hwynt,