Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/674

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ac o achos yr Aifft eu gogoniant hwy.

º6 A’r dydd hwnnw y dywed preswylwyr yr ynys hon, Wele, fel hyn y mae ein gobaith ni, lle y ffoesom am gymorth i’a, gwared rhag brenin Asyria: a pha fodd y dihangwn?


PENNOD 21

BAICH anialwch y môr. Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwoddy felly y daw o’r anialwch, o wlad ofnadwy

º2 Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi. Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a’r dinistrydd sydd yn dinistrio. Elam, dring; Media, gwarchae; gwneuthum i’w holt riddfan hi ddarfod.

º3 Am hynny y llanwyd fy llwynau & ddolur, gwewyr a’m daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled.

º4 Cyfeiliornodd fy nghalon, braw a’m dychrynodd; efe a drodd fy nghyfnos. ddymunol yn ddychryn i mi.

º5 Paratoa y bwrdd, gwylia ys y ddisgwylfa, bwyta, yf; cyfodwch, dywysogion; eneimwch y darian.

º6 Oherwydd fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, DOS, gosodwyliedydd, myneged yr hyn a welo.

º7 Ac efe a welodd gerbyd, a dau o wŷr meirch, cerbyd asynnod, a cherbyd camelod; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben.

º8 Ac efe a lefodd, Llew: fy arglwydd, ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos.

º9 Ac wele, yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr, a dau o wŷr meirch. Ac efe a ateliodd ac a ddywedodd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon; a holl ddclwau ccrfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr.

º10 O fy nyrniad, a chnwd fy llawr dyrnu! yr hyn a glywais gan ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, a fynegais tcfawi.

º11 1 Baich Duma, Arnaf fi y mae-’yll galw o Seir, Y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos?

º12 Dywedodd y gwyliedydd, Daeth ‘y bore a’r nos hefyd: os ceisiwch, ceisiwch; dychwelwch, deuwch.:

º13 Baich ar Arabia. Yn y coed ytt Arabia y lletywch chwi, fforddolion Dedanim. ‘ ‘.

º14 Dygwch ddyfroedd i gyfarfod a’r sychedig, trigolion tir Tema, achubwch flaen y crwydrus a’i fara. ;

º15 Oherwydd rhag cleddyfau-yffoesant, rhag y cleddyfnoeth, a rhag ybwa analog, a rhag trymder rhyfel.

º16 Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi, Cyn pen blwyddyn, o fath blwyddyn gwas cyflog, y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar:

º17 A’r gweddill o rifedi saethyddion gwŷr cedyrn meibion Cedar, a leiheir; canys ARGLWYDD DDUW Israel a’r dywedodd.


PENNOD 22

º1 AICH glyn gweledigaeth. Beth a ddarfu i ti yn awr, pan ddringaist ti, oll i nennau y tai?

º2 Ti yr hon wyt yn llawn terfysg, yn ddinas derfysgol, yn ddinas lawen: dy laddedigion ni laddwyd a chleddyf, na’th feirw mewn rhyfel.

º3 Dy holl dywysogion a gydffoesant, gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd, y rhai a ffoesant o bell.

º4 Am hynny y dywedais, Edrychwchf oddi wrthyf; mi a wylaf yn chwerw, na lafuriwch fy nghysuro, am ddinistr merch fy mhobl.

º5 Oherwydd diwrnod blinder yw, a mathru, a drysni, gan Arglwydd DDUW y lluoedd, yng ngiyn gweledigaeth, yn difurio y gaer, ac yn gweiddi i’r mynydd.

º6 Elam hefyd a ddug y cawell saethau, mewn cerbydau dynion a gwŷr meirch y Cir hefyd a ddinoethodd y darian.

º7 A bydd dy ddyffrynnoedd dewisol’yn llawn o gerbydau, a’r gwŷr meirch a ymfyddinant tua’r porth.