Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/675

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º8 Ac efe a ddinoethodd do Jwda, ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth ty’r goedwig.

º9 A gwelsoch rwygiadau dinas Dafydd, rtai arni oeddynt; a chasglasoch ddyfr¬oedd y pysgodlyn isaf.

º10 Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem, a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau’r mur.

º11 A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn: ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a’i lluniodd ef er ys talm.

º12 A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd DDUW y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu a’sachliain:

º13 Ac wele lawenydd a gorfoledd, gan ladd gwartheg, a lladd defaid, gan fwyta dg, ac yfed gwin: bwytawn ac yfwn; canys yfory, meddant, y byddwn feirw.

º14 A datguddiwyd hyn lle y clywais gan ARGLWYDD y lluoedd, Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn, hyd oni byddoch feirw, medd Arglwydd DDUW y lluoedd.

º15 Fel hyn y dywed Arglwydd DDUW y lluoedd, Cerdda, dos at y trysorydd hwn, sef at Sebna, yr hwn sydd benteulu, a dywed,

º16 Beth sydd i ti yma? a phwy sydd gennyt ti yma, pan drychaist i ti yma fedd, fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig?

º17 Wele yr ARGLWYDD yn dy fudo di a chaethiwed tost, a chan wisgo a’th wisg di.

º18 Gan dreiglo y’th dreighi di, fel trciglo pel i wlad eang; yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr.

º19 Yna y’th yrraf o’th sefyllfa, ac o’th sefyilfa y dinistria etc di.

º20 1 Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim m;ih Hiloeia:

º21 A’th wisg di hefyd y gwisgaf ef, ac a’th wregys di y nerthaf ef; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodniclh di: ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem, ac i dŷ Jwda.

º22 Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ‘ar ei ysgwydd ef: yna yr egyr efe, ac ni bydd a gaeo; ac efe a gae, ac ni bydd a agoro.

º23 A mi a’i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad.

º24 Ac arno efy crogant holl ogoniant tŷ -ei dad, hi! ac epil, yr holl fan lestri, o’r llestri meiliau, hyd yr holl offer cerdd.

º25 Yn y dydd hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y symudir yr hoel a hoeliwyd yn y man sicr, a hi a dorrir, ac a syrth: torrir hefyd y llwyth oedd ami; canys yr ARGLWYDD a’i dywedodd.


PENNOD 23

º1 BAICH Tyrus. Llongau Tarsis, udwch: canys anrheithiwyd hi, fel’nad oes na thy, na chyntedd: o dir Chittim y dat¬guddiwyd iddynt.

º2 Distewch, drigolion yr ynys, yr hon y mae marchnadyddion Sidon, y rhai sydd yn tramwy y môr, yn dy lenwi.

º3 Ac wrth ddyfroedd lawer, had Sihor, cynhaeaf yr afon yw ei chnwd hi: felly iftarchnadfa cenhedloedd yw hi.

º4 Cywilyddia, Sidon; canys y môr, ie, cryfder y môr, a lefarodd, gan ddywedyd, Nid ymddygais, ac nid esgorais, ni fegais wŷr ieuainc chwaith, ac ni feithrinais forynion.

º5 Megis wrth glywed son am yr Eifftiaid, yr ymofidiant wrth glywed son am Tyrus.

º6 Ewch trosodd i Tarsis; udwch, breswylyr yr ynys. ‘

º7 Ai hon yw eich dinas lawen chwi, yr hon y mae ei hynafiaeth er y dyddiau gynt? ei thraed a’i dygant hi i ymdaith i bell.

º8 Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus goronog, yr hon yr ydoedd ei marchnatawyr yn dywysogion, a’r marsiandwyr yn bendefigion y ddaear?

º9 ARGLWYDD y lluoedd a fwriadodd ‘hyn, i ddifwyno balchder pob gogoniant, ac i ddirmygu holl bendefigion y ddaear.

º10 Dos trwy dy wlad fel afon, O ferch Tarsis: nid oes nerth mwyach.

º11 Estynnodd ei law ar y môr, dychrynodd y teyrnasoedd; gorchmynnodd yr ARGLWYDD am ddinas y farsiandiaeth, ddinistrio ei chadernid.

º12 Ac efe a ddywedodd, Ni chei orfoleddu mwyach, yr orthrymedig forwyn, merch Sidon; cyfod, dos