Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/676

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch.

º13 Wele dir y Caldeaid; nid oedd y bobl hyn, nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch: dyrchafasant ei thyrau, cyfodasant ei phalasau; ac efe a’i tynnodd hi i lawr.

º14 Llongau Tarsis, udwch; canys anrheithiwyd eich nerth.

º15 A’r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrigain, megis dyddiau un brenin: ymhen y deng mlynedd a thrigain y can Tyrus megis putain.

º16 Cymer y delyn, amgylchyna y ddinas, ti butain anghofiedig: can gerdd yn dda: can lawer fel y’th gofier.

º17 Ac ymhen y deng mlynedd a thrigain yr ARGLWYDD a ymwêl â Thyrus, a hi a ddychwel at ei helw, ac a buteinia a holl deyrnasoedd y byd ar wyneb y ddaear.

º18 Yna y bydd ei marchnad a’i helw yn sancteiddrwydd i’r ARGLWYDD: ni thrysorir ac nis cedwir: canys eiddo y rhai a drigant o flaen yr ARGLWYDD fydd ei marsiandiaeth, i fwyta yn ddigonol, ac yn ddillad parhaus. ‘


PENNOD 24

º1 WELE yr ARGLWYDD yn gwneuthur y ddaear yn wag, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi, ac a wasgar ei thrigolion.

º2 Yna bydd yr un ffunud i’r bobl ac i’r offeiriad, i’r gwas ac i’w feistr, i’r llawforwyn ac i’w meistres, i’r prynydd ac i’r gwerthydd, i’r hwn a roddo ac i’r hwn a gymero echwyn, i’r hwn a gymero log ac i’r hwn a dalo log iddo.

º3 Gan wacáu y gwaceir, a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad; canys yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn.

º4 Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear.

º5 Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol.

º6 Am hynny melltim a ysodd y tir, a’r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd.

º7 Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant.

º8 Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn.

º9 Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i’r rhai a’i hyfant.

º10 Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn.

º11 Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, byfrydwch y tir a fudodd ymaith.

º12 Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.

º13 Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin.

º14 Hwy a ddyrchafant eu llef, ac a ganant; oherwydd godidowgrwydd yr ARGLWYDD, bloeddiant o’r môr.

º15 Am hynny gogoneddwch yr AR¬GLWYDD yn y dyffrynnoedd, enw AR¬GLWYDD DDUW Israel yn ynysoedd y môr.

º16 O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau, sef gogoniant i’r cyfiawn. A dywedais, O fy nghuini, O fy nghuini, gwae fi! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie, gwnaeth yr anffyddlon o’r fath anffyddlonaf.

º17 Dychryn, a ffos, a magi fydd amat ti, breswylydd y ddaear.

º18 A’r hwn a ffy rhag trvist y dychryn, a syrth yn y ffos; a’r hwn a gyfodo o ganol y ffos, a ddelir yn y fagi: oherwydd ffenestri o’r uchelder a agorwyd, a sciliau y ddaear sydd yn crynu.

º19 Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear, gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear, gan symud yr ymsyrnudodd y ddaear.

º20 Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn, ac a ymsigia megis bwth; a’i chamwedd fydd drwm ami; a hi a syrth, ac ni chyfyd mwy.

º21 Yr amser hwnnw yr ymwêl yr AR¬GLWYDD â llu yr uchel, yr hwn sydd yn yr uchelder, ac a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.

º22 A chesglir hwynt fel y cesglir carcharorion mewn daeardy, a hwy