Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/677

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a garcherir mewn carchar, ac ymhen llawer o ddyddiau yr ymwelir a hwynt.

º23 Yna y lleuad a wrida, a’r haul a gywilyddia, pan deyrnaso ARGLWYDD y lluoedd ym mynydd Seion ac yn Jerwsalern, ac o flaen ei henuriaid mewn gogoniant.


PENNOD 25

º1 O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt; dyrchafaf di, moliannaf dy enw; canys gwnaethost ryfeddodau: dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd.

º2 Canys gosodaist ddinas yn bentwr, a thref gadarn yn garnedd; palas dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth.

º3 Am hynny pobl nerthol a’th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadv y a’th arswyda:

º4 Canys buost nerth i’r dawd, a chad¬ernid i’r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur.

º5 Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres a chysgod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy.

º6 Ac ARGLWYDD y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig.

º7 Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd.

º8 Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagraa oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a’i llefarodd.

º9 A’r dydd hwnnw y dywedir, Wele, dyma ein Duw ni; gobeithiasom ynddo, ac efe a’n ceidw: dyma yr ARGLWYDD; gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef.

º10 Canys llaw yr ARGLWYDD a orffwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano, fel sathru gwellt mewn tomen.

º11 Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol-hwy, fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo.

º12 Felly y gogwydda, y gostwng, ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch, gadernid uchelder dy gaerau.


PENNOD 26

º1 YDYDD hwnnw y cenir y gan hon yn nhir Jwda: Dinas gadarn sydd i ni; Duw a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur.

º2 Agorwch y pyrth, fel y del y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wir¬ionedd.

º3 Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfcyd amat ti; am ei fod yn ymddiried ynot.

º4 Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD byth; oherwydd yn yr ARGLWYDD DDUW y mae cadernid tragwyddol.

º5 Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder; tref uchel a ostwng efe: efe a’i darostwng hi i’r llawr, ac a’i bwrw hi i’r llwch.

º6 Troed a’i sathr hi, sef traed y trueiniaid, a chamre’r tlodion.

º7 Uniondeb yw llwybr y cyfiawn; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn.

º8 Ar lwybr dy farnedigaethan hefyd y’th ddisgwyliasom, ARGLWYDD; dymuniad ein henaid sydd at dy enw, ac at dy goffadwriaeth.

º9 A’m henaid y’th ddymunais liw nos, a’m hysbryd hefyd o’m mewn y’th fore-geisiaf: canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder, pan fyddo dy larnedigaethau ar y ddaear.

º10 Gwneler cymwynas I’T annuwiol, eto ni ddysg efe gyfiawnder; yn nhir uniondeb y gwna ar gam, ac ni wetuehelder yr ARGLWYDD.

º11 Ni welant, ARGLWYDD, pan ddyrchafer dy law: eithr cant weled, a chywilyddiant am eu heiddigedd wrth y bobl, ie, tan dy elynion a’u hysa hwynt.

º12 ARGLWYDD, ti a drefni i ni heddwch: canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni.

º13 O ARGLWYDD ein Duw, arglwyddi eraill heb dy law di a arglwyddiaethasant arnom ni; yn unig trwot ti y coffawn dy enw.

º14 Meirw ydynt, ni byddant fyw;