Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/681

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gyn i’r Aifft, heb ymofyn a mi, i ymnerthu yn nerth Pharo, ac i ymddiried yng nghysgod yrAifft.

º3 Am hynny y bydd nerth Pharo ys gywilydd i chwi, a’r ymddiried yng nghys¬god yr Aifft yn waradwydd.

º4 Canys bu ei dywysogion yn Soan, a’i genhadau a ddaethant i Hanes.

º5 Hwynt oll a gywilyddiwyd oherwydd y bobl ni fuddia iddynt, ni byddant yn gynhorthwy nac yn llesad, eithr yn warth ac yn waradwydd.

º6 Baich anifeiliaid y deau. I dir cystudd ac ing, lle y daw ohonynt yr hen lew a’r llew ieuanc, y wiber a’r sarff danllyd hedegog, y dygant eu golud ar gefnau asynnod, a’u trysorau ar gefnau camelod, at bobl ni wna les.

º7 Canys yn ddiles ac yn ofer y cynorthwya yr Eifftiaid: am hynny y llefais arni, Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd.

º8 Dos yn avr, .ysgrifenna hyn mewn llech ger eu broil hwynt, ac ysgrifenna mewn llyfr, fel y byddo hyd y dydd diwethaf yn oes oesoedd;

º9 Mai pobl wrthryfeigar yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD: ‘

º10 Y rhai a ddywedant wrth y gweled¬yddion, Na welwch; ac wrth y proffwydi, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn, traethwch i ni weniaith, proffwydwch i ni siomedigaeth:

º11 Ciliwch o’r ffordd, ciliwch o’r llwybr; perwch i Sanct Israel beidio & ni.

º12 Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel, Am wrthod ohonoch y gair hwn, ac ymddiried ohonoch mewn twyll a cham, a phwyso ar hynny:

º13 Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio, yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg.

º14 Canys efe a’i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymryd tan o’r aelwyd, nac i godi dwfr o’r ffos.

º15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech.

º16 Eithr dywedasoch, Nid felly; canys ni a ffown ar feirch; am hynny y ffowch: a marchogwn ar feirch buain; am hynny y bydd buain y rhai a’ch erlidio.

º17 Mil a ffy wrth gerydd un; ac wrth gerydd pump y ffowch, hyd oni’ch gadaw-* er megis hwylbren ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn.

º18 Ac am hynny y disgwyl yr AR¬GLWYDD i drugarhau wrthych, ie, am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych; canys Duw cyfiawnder yw yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho.

º19 Canys y bobl a drig yn Seion o fewn Jerwsalem: gan wylo nid wyli; gan drugar¬hau efe a drugarha wrthyt; wrth lef dy waedd, pan ei clywo, efe a’th ateb di.

º20 A’r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder, ond ni chomelir dy .sxbeawsm. niwy, eabs dylygaid fyddant yn gweled dy athrawon:

º21 A’th, glustiau a glywant;air o’th, ôl yn dywedyd, Dyma y ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddeau, neu pan bwysoch ar y llaw aswy.

º22 Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian, ac effod dy dawdd-ddelw aur; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf, a dywedi wrthynt, DOS ymaith.

º23 Ac efe a rydd law i’th had pan heuech dy dir, a bara cnwd y ddaear, ac efe a fydd yn dew ac yn ami; a’r dydd hwnnw y pawr dy anifeiliaid mewn porfa helaeth.

º24 Dy ychen hefyd a’th asynnod, y rhai a lafuriant y tir, a borant ebran pur; yr hwn a nithiwyd a gwyntyll ac a gogr.

º25 Bydd hefyd ar bob mynydd uchel, ac ar bob bryn dyrchafedig, afonydd a ffrydiau dyfroedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio y tyrau.

º26 A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr ARGLWYDD friw el bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt.