Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/682

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º27 Wele enw yr ARGLWYDD yn dyfod a bell, yn llosgi gan ei ddigofaint ef, a’i faich sydd drwm; ei wefusau a lanwyd o ddicter, a’i dafod sydd megis tan ysol.

º28 Ei anadl hefyd, megis afon lifeiriol, a gyrraedd hyd hanner y gwddf, i nithio’r cenhedloedd a gogr oferedd; a bydd ffrwyn yng ngenau y bobloedd, yn eu gyrru ar gyfeiliorn.

º29 Y gan fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel wyl; a llawenydd calon, megis pan elo un a phibell i fyned i fynydd yr ARGLWYDD, at Gadarn yr Israel.

º30 A’r ARGLWYDD a wna glywed ardderchowgrwydd ei lais, ac a ddengys ddisgyniad ei fraich, mewn dicter llidiog, ac a fflam dân ysol, a gwasgarfa, ac a thymesti, ac a cherrig cenllysg.

º31 Canys â llais yr ARGLWYDD y distrywir Assur, yr hwn a drawai a’r wialen.

º32 A pha le bynnag yr elo y wialen. ddiysgog, yr hon a,esyd yr ARSI-WTOD arno ef, gyda thympanau a thelynau’ y bydd: ac a rhyfel tost yr ymladd efe yn ei erbyn.

º33 Canys darparwyd Toffet er doe, ie, paratowyd hi i’r brenin: efe a’i dyfnhaodd hi, ac a’i ehangodd: ei chyneuad sydd dân a choed lawer; anadl yr ARGLWYDD, megis afon. o frwmstan, sydd yn ei faennyn hi.


PENNOD 31

º1 GWAE y rhai a ddisgynnant i’r Aifft am gynhorthwy, ac a ymddiriedant mewn meirch, ac a hyderant ar gerbydau, am eu bod yn ami; ac ar wŷr meirch, am eu bod yn nerthol iawn: ond nid edrychant am Sanct Israel, ac ni cheisiant yr AR¬GLWYDD.

º2 Eto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw a chosbedigaeth, ac ni eilw ei air yn ôl; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd.

º3 Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion, ac nid Duw; a’u meirch yn gnawd, ac nid yn ysbryd. Pan estynno yr ARGLWYDD ei law, yna y syrth y cynorthwywr, ac y cwymp y cynorthwyedig, a hwynt oll a gydballant.

º4 Canys fel hyn y dywedodd yr AR¬GLWYDD wrthyf, Megis y rhua hen lew a’r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth, yr hwn, er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhag eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrf hwynt: felly y disgyn ARGLWYDD y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion, a thros ei fryn ef.

º5 Megis adar yn ehedeg, felly yr amddiffyn ARGLWYDD y lluoedd Jerwsalem; gan amddiffyn a gwared, gan basio heibio ac achub.

º6 Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho.

º7 Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi.

º8 A’r Asyriad a syrth trwy gleddyf, nid eiddo gŵr grymus; a chleddyf, nid

eiddo dyn gwael, a’i difa ef: ac efe a fry rhag y cleddyf, a’i wŷr ieuainc a fyddant dan dreth.

º9 Ac efe a â i’w graig rhag ofn; a’i dywysogion a ofnant rhag y faner, medd yr ARGLWYDD, yr hwn y mae ei dan yn Seion, a’i ffwrn yn Jerwsalem.


PENNOD 32

º1 WELE, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion’a lywodraethant mewn barn.

º2 A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymesd;. megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, megis cysgod craig fawr mewn’tir sychedig.

º3 Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant.

º4 Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur.

º5 Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw,.

º6 Canys coegwr a draetha goegni, a’i-. galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr AR¬GLWYDD, i ddiddymu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu.