Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/683

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º7 Arfau y cybydd sydd ddrygionus: efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau, pan draetho yr anghenus yr uniawn.

º8 Ond yr hael a ddychymyg haelioni; ac ar haelioni y saif efe. . . ..

º9 Cyfodwch, wragedd di-waittt; clywch fy llais: gwrandewch. fy ymadrodd, ferched diofal.

º10 Dyddiau gyda blwyddyn y traBodir chwi, wragedd difraw: canys darfa y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull.

º11 Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal: ymddiosgwch, ac ymnoethwch, a gwregyswch sachliain am eich llwynau.

º12 Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon.

º13 Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobli ie, ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd.

º14 Canys y palasau a wrthodw, lluosowgrwydd y ddinas a adewir, yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, ynhyfry dwell asynnod gwylltion, yn borfa diadellau;

º15 Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir.

º16 Yna y trig barn yn yr anialwch, a . chyfiawnder a erys yn y doldir.

º17 A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch. a diogelwch, hyd byth.

º18 A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd.

º19 Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel.

º20 Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch; draed yr ych a’r asyn yno.


PENNOD 33

º1 GWAE di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio; a thi anffyddlon, er na: wnaed yn anffyddlon a thi: pan ddarffoi ti anrheithio, y’th anrheithir; a phatt ddarffo i ti fod yn anffyddlon, byddant. anffyddlon i ti.

º2 ARGLWYDD, trugarha wrthym; wrthyt y disgwyliasom: bydd fraich iddynt bob bore, a’n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd.

º3 Wrth lais y twrf y gwibiodd y bobl; wrth ymddyrchafu ohonot y gwasgarwyd y cenhedloedd.

º4 A’ch ysbail a gynullir fel. cynulliad lindys; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt.

º5 Dyrchafwyd yr ARGLWYDD; canys preswylio y mae yn yr uchelder: efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder.

º6 A sicrwydd . dy amserau, a nerth iachawdwriaeth, fydd doethineb a gwybodaeth: ofn yr ARGLWYDD yw ei drysor ef.

º7 Wele, eu rhai dewrion a waeddafit oddi allan: cenhadon heddwchi a wylant yn chwerw.:

º8 Aeth y priffyrdd yn ddisathr, darfn cyniweirydd llwybr: diddymodd y cyfamod, diystyrodd y dinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion.

º9 Galarodd a llesgaodd y ddaear, cywilyddiodd Libanus, a thorrwyd ef; Saron a aeth megis anialwch, ysgydwyd Basan hefyd a Charmel.

º10 Cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD: ymddyrchafaf weithian; ymgodaf bellach.

º11 Chwi a ymddygwch us, ac a esgorwch ar sofl; eich anadl fel tan a’ch ysa chwi.

º12 A’r bobloedd fyddant fel llosgfa calch, fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân.

º13 Gwrandewch, belledigiQn, yr hyn a wneuthum; a gwybyddwch, gymdogion, fy nerth.

º14 Pechaduriaid a ofnasant yn Seion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr: pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol?

º15 Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw traws-ter, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni,

º16 Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr.

º17 Dy lygaid a welant y brenin yn i degwch: gwelant y lir pell.

º18 Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau?