Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/688

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

GLWYDD, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw.

º2 Yna Heseceia a droes ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr ARGLWYDD:

º3 A dywedodd, Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd ac a chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr.

º4 Yna y bu gair yr ARGLWYDD with Eseia, gan ddywedyd,

º5 DOS, a dywed wrth Heseceia, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau, wele, mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd.

º6 Ac o law brenin Asyria y’th waredaf di a’r ddinas: a mi a ddiflymraf y ddinas hon.

º7 A hyn fydd i ti yn arwydd oddi wrth yr ARGLWYDD, y gwna yr ARGLWYDB y gair hwn a lefarodd;

º8 Wele fi yn dychwelyd cysgod y graddau, yr hwn a ddisgynnodd yn neial Ahas gyda’r haul, ddeg o raddau yn ei ôl. Felly yr haul a ddychwelodd ddeg o raddau, ar hyd y graddau y disgynasai ar hyd-ddynt.

º9 Ysgrifen Heseceia brenin Jwda, pan glafychasai, a byw ohono o’i glefyd:

º10 Aiyfi a ddywedais yn nhoriad fy nyddiau, Af i byrth y bedd; difuddiwyd fi o weddill fy mlynyddoedd.

º11 Dywedais, Ni chaf weled yr AR¬GLWYDD I OR yn nhir y rhai byw: ni welaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd.

º12 Fy nhrigfa a aeth, ac a symudwyd oddi wrthyf fel lluest bugail: torrais ymaith fy hoedl megis gwehydd; a nychdod y’m tyr ymaith: o ddydd hyd nos y gwnei ben amdanaf.

º13 Cyfrifais hyd y bore, mai megis llew y dryllia efe fy holl esgyrn: o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf.

º14 Megis garan neu wennol, felly trydar a wneuthum; griddfenais megis colomen; fy llygaid a ddyrchafwyd i fyny: O ARGLWYDD, gorthrymwyd fi, esmwytha arnaf.

º15 Beth a ddywedaf? canys dywedodd wrthyf, ac efe a’i gwna: mi a gerddaf yn araf fy holl flynyddoedd yn chwerwedd fy enaid.

º16 Arglwydd, trwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy ysbryd i; felly yr iachei, ac y bywhei fi.

º17 Wele yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw: ond o gariad ar fy enaid y gwaredaist ef o bwll llygredigaeth: canys ti a deflaist fy holl bechodau o’r tu ôl i’th gefn.

º18 Canys y bedd ni’th fawl di, angau ni’th glodfora: y rhai sydd yn disgyn i’r pwll ni obeithiant am dy wirionedd.

º19 Y byw, y byw, efe a’th fawl di, fel yr wyf fi heddiw: y tad a hysbysa i’r plant dy wirionedd.

º20 Yr ARGLWYDD sydd i’m cadw: am hynny y canwn fy nghaniadau holl ddydd¬iau ein heinioes yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º21 Canys Eseia a ddywedasai, Cymerant swp o ffigys, a rhwymant yn blastr ar y cornwyd, ac efe a fydd byw.

º22 A dywedasai Heseceia, Pa arwydd fydd y caf fyned i fyny i dŷ yr ARGLWYDD?


PENNOD 39

º1 YN yr amser hwnnw Merodach-Baladan, mab Baladan, brenin Bab-ilon, a anfonodd lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai ei fod ef yn glaf, a’i fyned yn iach.

º2 A Heseceia a lawenychodd o’u herwydd hwynt, ac a ddangosodd iddynt dy ei drysorau, yr arian, a’r aur, a’r llysieuau, a’r olew gwerthfawr, a holl dy ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dv ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.

º3 Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat? A dywedodd Heseceia, (? wlad bell y daethant ataf fi, sef o Babilon.

º4 Yntau a ddywedodd. Both a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd llcscceia, Yr hyn oll oedd