Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/687

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a gwrando; agor dy lygaid, ARGLWYDD, ac edrych: gwrando hefyd holl eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.

º18 Gwir yw, O ARGLWYDD, i frenhinoedd Asyria ddifa yr holl genhedloedd a’u gwledydd,

º19 A rhoddi eu duwiau hwy yn tân; canys nid oeddynt hwy dduwiau, ond gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.

º20 Yr awr hon gan hynny, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr ARGLWYDD, tydi yn unig.

º21 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Sena¬cherib brenin Asyria:

º22 Dyma y gair a lefarodd yr AR¬GLWYDD yn ei erbyn ef; Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd, ac a’th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl.

º23 Pwy a ddifenwaist ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lef, ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel.

º24 Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a’i ddewis ffynidwydd; af hefyd i’w gŵr uchaf, ac i goed ei ddoldir.

º25 Myfi a gloddiais, ac a yfais ddwfr; a gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afonydd y gwarchaeëdig.

º26 Oni chlywaist wneuthur ohonof hyn er ys talm, a’i lunio er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddistrywio dinasoedd caerog yn gameddau dinistriol.

º27 Am hynny eu trigolion yn gwloglaw a ddychrynwyd ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, a glaswellt ar bennau tai, neii ŷd wedi deifio cyn aeddfedu.

º28 Dy eisteddiad hefyd; a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabuiffi xxx a’th gynddeiriowgrwydd i’m herbyn.

º29 Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau; am hynny y rhoddaf fy mach yn dy ffroen di, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost.

º30 A hyn fydd yn arwydd i ti, Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

º31 A’r gweddill o dŷ Jwda, yr hwn a adcwir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.

º32 Canys gweddill a â allan o Jerwsfllem, a’r rhai dihangol o fynydd Seion: sel ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.

º33 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno; hefyd ni ddaw o’i blaen a tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn.

º34 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD.

º35 Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

º36 Yna yr aeth angel yr ARGLWYDD, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, weie hwynt oll yn gelaneddau meirwon.

º37 Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.

º38 A bu, fel yr ydoedd efe yn addoli yn ahv Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion, ei daro ef â’r cleddyf  ; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia. Ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.


PENNOD 38

º1 YN y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw. Ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr AR-