Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/686

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º16 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder a mi, a deuwch allan ataf, a bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun;

º17 Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd.

º18 Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’n gwared ni. A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?

º19 Mae duwiau Hamath ac Arffad? mae duwiau Seffarfaim? a waredasant hwy Samaria o’m llaw i?

º20 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr ARGLWYDD Jerwsalem o’m llaw?

º21 Eithr hwy a dawsant, ac nid atebasant air iddo; canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.

º22 Yna y daeth Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, a’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.


PENNOD 37

º1 A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd mewn sachliain, ac a aeth i dŷ yr ARGLWYDD.

º2 Ac a anfonodd Eliacim y penteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.

º3 A hwy a ddywedasant wrtho. Fel hyn y dywedodd Heseceia, Diwrnod cyfyngder, a cherydd, a chabledd, yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.

º4 Fe allai y gwrendy yr ARGLWYDD dy DDUW eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr ARGLWYDD dy DDUW: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael.

º5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

º6 A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.

º7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe n glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

º8 Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis.

º9 Ac efe a glywodd son am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Efe a aeth allan i ryfela â thi. A phan glywodd hynny, efe a anfonodd genhadau at Heseceia, gan ddywedyd,

º10 Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerw¬salem yn llaw brenin Asyria.

º11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wiedydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di?

º12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden, y rhai oedd o fewn Telassar?

º13 Mae brenin Hamath, a brenin Arffad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?

º14 A chymerth Heseceia y llythyr o law y cenhadau, ac a’i darllenodd; a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD, ac a’i lledodd gerbron yr ARGLWYDD.

º15 A Heseceia a weddïodd at yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º16 ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, ti ydwyt DDUW, ie, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear: ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear.

º17 Gogwydda, ARGLWYDD, dy glust,