24 A dywedodd Joseph wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fynu o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.
25 A thyngodd Joseph feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fynu oddi yma.
26 A Joseph a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i pêr-aroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aipht.
Ail lyfr Moses, yr hwn a elwir
Exodus.
Pennod I.
1 Plant Israel, ar ol marwolaeth Joseph, yn amlhâu. 8 Po mwyaf y mae y brenhin newydd yn eu gorthrymmu, mwyaf y maent yn amlhâu. 15 Duwioldeb y bydwragedd, yn cadw yn fyw y plant gwrryw. 22 Pharaoh yn gorchymyn bwrw y plant gwrryw i’r afon.
Dyma yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i'r Aipht: gyd â Jacob y ddaethant, bob un a'i deulu.
2 Reuben, Simeon, Lefi, a Judah,
3 Issachar, Zabulon, a Benjamin,
4 Dan, a Naphtali, Gad, ac Aser.
5 A’r holl eneidiau a ddaethant allan o gorph Jacob oedd ddeng henaid a thri ugain: a Joseph oedd yn yr Aipht.
6 A Joseph a fu farw, a’i holl frodyr, a’r holl genhedlaeth honno.
7 ¶ A phlant Israel a hiliasant ac a gynnyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth, a’r wlad a lanwyd ohonynt.
8 Yna y cyfododd brenhin newydd yn yr Aipht, yr hwn nid adnabuasai mo Joseph.
9 Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele, bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni.
10 Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt, rhag amlhâu o honynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgyssylltu o honynt â’n caseion, a rhyfela i’n herbyn, a myned i fynu o’r wlad.
11 Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid-gwaith, i’w gorthrymmu â’u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharaoh ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses.
12 Ond fel y gorthrymment hwynt, felly yr amlhâent, ac y cynnyddent: a drwg oedd ganddynt o herwydd plant Israel.
13 A’r Aiphtiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed.
14 A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy y gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a’u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed.
15 A brenhin yr Aipht a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebrëesau; o ba rai enw un oedd Siprah, ac enw yr ail Puah:
16 Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebrëesau, a gweled o honoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.
17 Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ol yr hyn a ddywedasai brenhin yr Aipht wrthynt, eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.
18 Am hynny brenin yr Aipht a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?
19 A’r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharaoh, Am nad yw yr Hebrëesau fel yr Aiphtiesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig attynt.
20 Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd: a’r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.
21 Ac o herwydd i’r bydwragedd ofni Duw, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau.
22 A Pharaoh a orchymynodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.
Pennod II.
1 Geni Moses, 3 a’i fwrw mewn cawell yn yr hesg. 5 Merch Pharaoh yn ei gael ef, ac yn ei ddwyn i fynu. 11 Efe yn lladd Aiphtwr: 13 yn ceryddu Hebrëwr: 15 yn ffoi i Midian: 21 yn prïodi Sephorah. 22 Genedigaeth Gersom. 23 Duw yn ystyried uchenaid yr Israeliaid.