Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/690

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

arnynt, a hwy a wywant, a chorwynt a’u dwg hwynt ymaith fel son.

º25 I bwy gan hynny y’m cyrfelybwchs ac y’m cystedlir? medd y Sanct.

º26 Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a’u geilw hwynt oll with eu henwau; gan arnlder ei rym ef, a’i gadarn allu, ni phalla un.

º27 Paham y dywedi, Jacob, ac y lleferi, Israel, Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr ARGLWYDD, a’m barn a aeth heibio i’m Duw?

º28 Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina Duw tragwyddoldeb, yr ARGLWYDD, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef.

º29 Yr hwn a rydd nerth i’r diffygiol, ac a amlha gryfder i’r di-rym.

º30 Canys yr ieuenctid a ddiflygia ac a flina, a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant:

º31 Eithr y rhai a obeithiant yn yr ARGLWYDD a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant, rhodiant, ac ni ddiffygiant.


PENNOD 41

º1 DISTEWCH, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cydnesawn i farn.

º2 Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, a’i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef.

º3 Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe a’i draed.

º4 Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad? Myfi yr ARGLWYDD y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda’r diwethaf.

º5 Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasaat; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant.

º6 Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha.

º7 Felly y saer a gysurodd yr eurych, a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i’w asio; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir.

º8 Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd.

º9 Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni’th wrthodais.

º10 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di a deheulaw fy nghyfiawnder.

º11 Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir.

º12 Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant a thi: y gwŷr a ryfelant a thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim.

º13 Canys myfi yr ARGLWYDD dy DDUW a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a’th gynorthwyaf.

º14 Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a’th gynorthwyaf, medd yr ARGLWYDD, a’th Waredydd, Sanct Israel.

º15 Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg.

º16 Nithi hwynt, a’r gwynt a’u dwg ymaith, a’r corwynt a’u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr ARGLWYDD, yn Sanct Israel y gorfoleddi.

º17 Pan geisio y trueimaid a’r tlodion ddwfr, ac nis cant, pan ballo eu tafod o syched,myfi yr ARGLWYDD ii’u gwrandawaf hwynt, myfi Duw Israel nis gadawaf hwynt.

º18 Agoraf afonydd ar leoedd uchel, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd: gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr, a’r crastir yn ffrydiau dyfroedd.

º19 Gosodaf yn yr anialwch y fiedrwydd, sita, myrtwydd, ac olewydd; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd, a’r pren bocs ynghyd;

º20 Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallonfr ynghyd,