Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/691

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn, a Sanct Israel a’i creodd.

º21 Deuwch yn nes a’ch cwyn, medd yr ARGLWYDD; dygwch eich rhesymau cadarnaf, medd brenin Jacob.

º22 Dygant hwynt allan, a mynegant i ‘ni y pethau a ddigwyddant: mynegwch y" pethau gynt, beth ydynt, fel yr ystyriom ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu traethwch i ni y pethau a ddaw.

º23 Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, fel y gwypom mai duwiau ydycht chwi; gwnewch hefyd dda neu ddrwg, fel y synno arnom, ac y gwelom ynghyd.

º24 Wele, peth heb ddim ydych chwi, a’ch gwaith sydd ddiddim: ffiaidd yw y gŵr a’ch dewiso chwi.

º25 Cyfodais un o’r gogledd, ac efe a ddaw; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd.

º26 Pwy a fynegodd o’r dechreuad, fel y gwybyddom? ac ymlaen llaw, fel y dywedom, Cyfiawn yw? nid oes a fynega nid oes a draetha chwaith, ac nid oes a glyw eich ymadroddion.

º27 Y cyntaf a ddywed wrth Seion Wele, wele hwynt; rhoddaf hefyd efeng-ylwr i Jerwsalem.

º28 Canys edrychais, ac nid oedd neb, ie, yn eu plith, ac nid oedd gynghorwr, pan ofynnais iddynt, a fedrai ateb gair.

º29 Wele, hwynt oll ydynt wagedd, a’u gweithredoedd yn ddiddim: gwync a gwagedd yw eu tawdd-ddelwau.


PENNOD 42

º1 WELE fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i’r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy ysbryd arno; efe a ddwg allaa farn i’r cenhedloedd.

º2 Ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol.

º3 Ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddiffydd

lin yn mygu; .efe a .ddwg allan,farn at wirionedd., „.:;

º4 Ni phalla efe, ac n-i ddigalonna, hyd eni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef.

º5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, creawdydd y nefoedd a’i hestyn-" nydd; lledydd y ddaear a’i chnwd; rhoddydd anadl i’r bobl arni, ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi:

º6 Myfi yr ARGLWYDD a’th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobL,i ac yn oleuni Cenhedloedd;

º7 I agoryd llygaid y deillion, i ddwya allan y carcharor o’r carchar, a’r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o’r carchardy.i

º8 Myfi yw yr ARGLWYDD; dyma fy; enw: a’m gogoniant ni roddaf i arall, na’m mawl i ddelwau cerfiedig.

º9 Wele, y pethau o’r blaen a ddaethant i ben, a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd, traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan.

º10 Cenwch i’r ARGLWYDD gan newyddn a’i fawl ef o eithaf y ddaear; y rhai a ddisgynnwch i’r môr, ac sydd ynddo; yr ynysoedd a’u trigolion.

º11 Y dineithwch a’i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd.

º12 Rhoddant ogoniant i’r ARGLWYBD, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd. .

º13 Yr ARGLWYDD a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedday ie, efe a rua; ac a fydd drech na’i elynion..

º14 Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith.

º15 Mi a wnaf y mynyddoedd a’r bryniau yn ddiffeithwch, a’u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a’r llynnoedd a sychaf.

º16 Arweiniaf y deilliaid ar hyd fford4-nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt, a’r pethau ceimion yn union. Dyma y peth¬au a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt.

º17 Troiryn’eu hôl,allwyrwaradwyddir y rhai a ymddiriedant