Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/697

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º10 Wele, myfi a’th burais, ond nid fel arian; dewisais di mewn pair cystudd.

º11 Er fy mwyn fy hun, er fy mwyn fy hun, y gwnaf hyn, canys pa fodd yr halogid fy enw? ac ni roddaf fy ngogoniant i arall.

º12 Gwrando arnaf fi, Jacob, ac Israel, yr hwn a elwais: myfi yw; myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf.

º13 Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaeari a’m deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy a gydsafant.

º14 Ymgesglwch oll, a gwrandewch; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn? Yr ARGLWYDD a’i hoffodd; efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a’i fraich a fydd ar y Caldeaid.

º15 Myfi, myn a leferais, ac a’i gelwais ef: dygais ef, ac efe a lwydda ei ffordd ef.

º16 Nesewch ataf, gwrandewch hyn; ni leferais o’r cyntaf yn ddirgel; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno: ac yn awr yr ARGLWYDD DDUW a’i Ysbryd a’m hanfonodd.

º17 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Waredydd, Sancc Israel; Myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio.

º18 O na wrandawsit ar fy ngorchmynion! yna y buasai dy heddwch fel afon, a’th gyfiawnder fel tonnau y môr:

º19 A buasai dy had fel y tywod, ac epil dy gorff fel ei racan ef: ni thorasid, ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy airon,

º20 Ewch allan o Babilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid, a llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr ARGLWYDD ei was Jacob.

º21 Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch: gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o’r graig: holltodd y graig hefyd, a’r dwfr a ddylifodd.

º22 Nid oes heddwch, medd yr ARGLWYDD, i’r rhai annuwiol.


PENNOD 49

º1 GWRANDEWCH arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr AR¬GLWYDD a’m galwodd o’r groth; o ymysgaroeddfymam y gwnaeth goffa amfyenw.

º2 Gosododd hefyd fy ngenau fel deddyf llym, yng nghysgod ei law y’m cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau;

º3 Ac a ddywedodd wrthyf, Fy ngwas i ydwyt ti, Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot.

º4 Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth; er hynny y mae fy marn gyda’r ARGLWYDD, a’m gwaith gyda’m Duw.

º5 Ac yn awr, medd yr ARGLWYDD yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr ARGLWYDD, a’m Duw fydd fy nerth.

º6 Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a’th roddaf hefyd yn oleuni i’r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear.

º7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a’i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr ARGLWYDD, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a’th ddewisodd di.

º8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Mewn amser bodlongar y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais; a mi a’th gadwaf, ac a’th roddaf yn gyfamod y bobl, i sicrhau y ddaear, i Beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol;

º9 Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt.

º10 Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt: oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a’u tywys, ac a’u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd.