Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/698

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º11 A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a’m priflyrdd a gyfodir.

º12 Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o’r gogledd, ac o’r gorllewin; a’r rhai yma o dir Sinim.

º13 Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd; canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid.

º14 Eto dywedodd Seion, Yr AR¬GLWYDD a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hanghofiodd.

º15 A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.

º16 Wele, ar gledr fy nwylo y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.

º17 Dy blant a frysiant; y rhai a’th ddinistriant, ac a’th ddistrywiant, a ânt allan ohonot.

º18 Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch.

º19 Canys dy ddiffeithwch a’th anialwch, a’th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a’r rhai a’th lyncant a ymbellhant.

º20 Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych, Cyfyng yw y lle hwn i mi, dod le i mi, fel y preswyliwyf.

º21 Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rbai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn?

º22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau.

º23 Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy famaethod; crymant i ti a’u bwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi.

º24 A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn?

º25 Ond fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ie, carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddianc: canys myfi a ymrysonaf â’th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feibion.

º26 Gwnaf hefyd i’th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th gadam Waredydd di, Jacob.


PENNOD 50

º1 FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam.

º2 Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i’m derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof north i achub? wele, a’m cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched.

º3 Gwisgaf y nefoedd a thywyllwch, a gosodaf sachliain yn do iddynt.

º4 Yr Arglwydd DDUW a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru roewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig.

º5 Yr Arglwydd DDUW a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl.

º6 Fy nghorff a roddais i’r curwyr, a’m cflrnau i’r rhai a dynnai y blew: ni chuddia s fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd.

º7 Oherwydd yr Arglwydd DDUW a’na cymorth; am hynny ni’m cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na’m cywilyddir.

º8 Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn