Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/699

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf.

º9 Wele, yr Arglwydd DDUW a’m cynorthwya; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a’u hysa hwynt.

º10 Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr ARGLWYDD, yn gwrando ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw yr AR¬GLWYDD, ac ymddirieded yn ei DDUW.

º11 xxx Wele, chwi oll y rhai ydych yn (Synnau tân, ac yn eich amgylchu eich hunain a gwreichion; rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gyneuasoch. O’m llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gorweddwch.


PENNOD 51

º1 GWRANDEWCH arnaf fi, ddilynwyr cyfiawnder, y rhai a geisiwch yr AR¬GLWYDD: edrychwch ar y graig y’ch naddwyd, ac ar geudod y ffos y’ch cloddiwyd ohonynt.

º2 Edrychwch ar Abraham eich tad, ac ar Sara a’ch eagorodd: canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais, ac yr amlheais ef.

º3 Oherwydd yr ARGLWYDD a gysura Seion: efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD: ceir ynddi laweoydd a hyfrydwch, diolch, a llais can.

º4 Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clustymwrandewch â mi, fy nghenedl: canys cyfraith a â allan oddi wrthyf, a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd.

º5 Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich.

º6 Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd.

º7 Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon: nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad.

º8 Canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn, a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlân: eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a’m, hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

º9 Deffro, deffro, gwisg nerth, O’ fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab, ac a archollaisi y ddraig?

º10 Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr dyfroedd y dyfnder mawr? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i’r gwaredigion i fyned drwodd?

º11 Am hynny y dychwel gwaredigion yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant i Seion a chanu, ac a llawenydd tragwyddol as-eu pennau: goddiweddant lawenydd a-hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith.

º12 Myfi, myfi, yw yr hwn a’ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a-wceir fel glaswelltyn?

º13 Ac a anghofi yr ARGLWYDD dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a OTnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio?’ pha le y mae llid y gorthrymydd?

º14 Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef.

º15 Eithr myfi yw yr ARGLWYDD dy E)DUW, yr hwn a barthodd y môr, pan ruodd ei donnau: ei enw yw ARGLWXDD y.lluoedd.

º16 Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y’th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt.

º17 Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lidiowgrwydd ef, yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef.

º18 Nid oes arweinydd iddi o’r holt feibion a esgorodd; ac nid oes a