Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/701

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan DDUW, a’i gystuddio.

º5 Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.

º6 Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troesom bawb i’w ffordd ei hun: a’r ARGLWYDD a roddes arno efein hanwiredd ni i gyd.

º7 Efe a orthrymwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agorai ei enau: fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau.

º8 O garchar ac o farn y cymerwyd ef; a phwy a draetha ei oes ef? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw; rhoddwyd rda arno ef am gamwedd fy mhobl.

º9 Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir, a chyda’r cyfoethog yn ei farwol aeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau.

º10 Eithr yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn abcrth dros bechod, efe a wel ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr ARGLWYDD a lwydda yn ei law ef.

º11 O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt.

º12 Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y tros¬eddwyr.


PENNOD 54

º1 CAN, di amhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: oherwydd amiach meibion yr hon a adawyd, na’r hon y mae gŵr iddi, medd yr ARGLWYDD.

º2 Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy rafEau, a sicrha dy hoelion.

º3 Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a’th had a etifedda y Cenhedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol.

º4 Nac ofna; canys ni’th gywilyddir: ac na’th waradwydder, am na’th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach.

º5 Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; ARGLWYDD-y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef.

º6 Canys fel gwraig wrthodedig, a chysmddiedig o ysbryd, y’th alwodd yr ARGLWYDD, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy DDUW.

º7 Dros ennyd fechan y’th adewais; ond a mawr drugareddau y’th gasglaf.

º8 Mewn ychydig sonant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond a thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr ARGLWYDD dy Waredydd.

º9 Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn.

º10 Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr ARGLWYDD sydd yn trugarhau wrthyt.

º11 Y druan, helbulus gan dymesti, y ddigysur, wele, mi a osodaf dy gerrig di a charbund, ac a’th sylfaenaf a meini saffir.

º12 Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a’th byrth o feini disglair, a’th holl derfynau o gerrig dymunol.

º13 Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD; a mawr fydd heddwch dy feibion.

º14 Mewn cyfiawnder y’th sicrheir: byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ atat.

º15 Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasg-lant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i’th erbyn, efe a syrth.

º16 Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac