a ddefnyddia arf i’w waith; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio.
º17 Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr AR¬GLWYDD, a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr ARGLWYDD.
PENNOD 55
º1 O DEUWCH i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deawch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth.
º2 Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster.
º3 Gogwyddwch eich dust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol a chwi, sef sicr drugareddau Dafydd.
º4 Wele, rhoddais ef yn dyst i’r bobl, yn flaenor ac yn athro i’r bobloedd.
º5 Wele, cenedl nid adwaeni a eiwi, a chenhedloedd ni’th adwaenai di a red atat, er mwyn yr ARGLWYDD dy DDUW, ac oberwydd Sanct Israel: canys efe a’th ogoneddodd.
º6 Ceisiwch yr ARGLWYDD, tra y galler ei gael ef; gelwch saws, tra fyddo yn agos.
º7 Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr ARGLWYDD, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein Duw ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth.
º8 Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr ARGLWYDD.
º9 Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi.
º10 Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i’r heuwr, a bara i’r bwytawr:
º11 Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o’m genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid.
º12 Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y’ch arweinir; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.
º13 Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd: a hyn fydd i’r ARGLWYDD yn enw, ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith.
PENNOD 56
º1 FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, Cedwch farn, a gwnewch gyfiawnder: canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod, a’m cyfiawnder ar ymddangos.
º2 Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mab y dyn a ymaflo ynddo; gan gadw y Saboth heb ei halogi, a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg.
º3 Ac na lefared y dieithrfab, yr hwn a lynodd wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan ddidoli a’m didolodd oddi wrth ei bobl; ac na ddyweded y disbaddedig, Wele fi yn bren crin.
º4 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD with y rhai disbaddedig, y rhai a gadwant fy Sabothau, ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf, ac a ymaflant yn fy nghyf-amod i;
º5 Ie, rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd. Ie ac enw gwell na meibion ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragwyddol, yr hwn ni thorrir ymaith.
º6 A’r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr ARGLWYDD, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw yr ARGLWYDD, i fod yn weision iddo ef, pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfamod;
º7 Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd, a llawenychaf hwynt yn nhŷ fy ngweddi: eu poethoffrymau hefyd a’u hebyrth fyddant gymeradwy ar fy allor: canys fy nhŷ i a elwir yn dy gweddi i’r holl bobloedd.