º8 Medd yr Arglwydd DDUW, yr hwn a gasgl wasgaredigion Israel, Eto mi a gasglaf eraill ato ef, gyda’r rhai sydd wedi eu casglu ato.
º9 Pob bwystfil y maes, deuwch i ddifa, a phob bwystfil yn y coed. i 10 Deillion yw ei wyliedyddion: ni wyddant hwy oll ddim, cwn mudion iydynt hwy oll, heb fedru cyfarth; yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hcpian.
º11 Ie, cwn gwancus ydynt, ni chydna-’byddant a’u digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddcall; wynebant oll ar eu ffordd eu hun, pob un at ei clw ei hun o’i gŵr.
º12 Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddiod gref; a bydd yfory megis heddiw, a mwy o lawer iawn.
PENNOD 57
º1 DARFU am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a’r gwŷr trugarog a gymerir ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith. 2 Efe a â i dangnefedd: hwy a orffwys-
aat yn eu hystafelloedd, sef pob un a TOdia yn ei uniondeb.
º3 Nesewch yma, meibion yr hudoles, had y godinebus a’r butain.
º4 Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi?
º5 Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog, gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau.
º6 Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran; hwynt-hwy yw dy gwtws: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod-offrwm, ac yr offrymaist fwyd-offrwm. Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn?
º7 Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth.
º8 Yng nghil y drysau hefyd a’r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddi-noethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist.
º9 Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint, ac amlheaist dy beraroglau: anfonaist hefyd dy genhadau i bell, ac ymostyngaist hyd uffern.
º10 Ym maim dy ffordd yr ymflinaist; ac ni ddywedaist, Nid oes obaith: cefaist fywyd dy law; am hynny ni chlefychaist.
º11 Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist, fel y dywedaist gelwydd, ac na chofiaist fi, ac nad ystvriaist yn dy galon? oni thewais i a son er ys talm, a thithau heb fy ofni?
º12 Myfi a fynegaf dy gyfiawnder, a’th weithredoedd: canys ni wnânt i ti les.
º13 Pan waeddech, gwareded dy gynulleidfaoedd di: eithr y gwynt a’u dwg hwynt ymaith oll; oferedd a’u cymer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd.
º14 Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfoSwch y rhwystr o ffordd fy mhobl.
º15 Canys fcl hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchatedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystudd¬iedig.
º16 Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i.
º17 Am anwiredd ei gybydd-dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon.
º18 Ei ffyrdd a welais, a mi a’i hiachaf ef: tywysaf ef hefyd, ac adferaf gysur iddo, ac i’w alarwyr.
º19 Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr ARGLWYDD: a mi a’i hiachaf ef.
º20 Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid.
º21 Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i’r rhai annuwiol.
PENNOD 58