Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/705

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º9 Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthynz, ac ni’n goddiweddodd cyfiawnder: disgwyliasom am oleuni, ac wele dywyllwch; am ddisgleirdeb, ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio.

º10 Palfalasom fel deillion a’r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos, oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw.

º11 Nym oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y gnddfanasom fel colomennod: disgwyliasom am farn, ac nid oes dim: am iachawdwnaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym.

º12 Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i’n herbyn-.ohwwydd ein camwedd¬au sydd gyda ni; a’n hanwireddau, ni a’u hadwaenom:

º13 Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr ARGLWYDD, a chilio oddi ar ôl ein Duw, dywedyd trawster ac anufudd-dod, myfyrio a thraethu o’r galon eiriau gau.

º14 Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell: canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn.

º15 Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a’r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a’i gwna ei hun yn ysbail: a gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn.

º16 Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr: am hynny ei fraich a’i hachubodd, a’i gyfiawnder ei hun a’i cynhaliodd.

º17 Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sel fel cochl.

º18 Yn ôl y gweithredoedd, ie, yn eu hôl hwynt, y tâl efe. llid i’w wrthwynebwyr, taledigaeth i’w elynion; taledigaeth i’r ynysoedd a dal efe.

º19 Felly yr ofnant enw yr ARGLWYDD o’r gorilewin, a’i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr ARGLWYDD a’i hymlid ef ymaith.;

º20 Ac i Seion y daw y Gwaredydd, ac i’r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr ARGLWYDD.

º21 A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr ARGLWYDD: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o’th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr ARGLWYDD, o hyn allan byth.


PENNOD 60

º1 CYFOD, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.

º2 Canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a’r fagddu y bobloedd: ond amat ti y cyfyd yr ARGLWYDD, a’i ogoniant a welir arnat.

º3 Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad.

º4 Cytbd dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; ymgasglasant oll, daethant atat: dy feibion a ddeuant o bell, a’th ferched a fegir wrth dy ystlys.

º5 Yna y cei weled, ac yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat luosowgrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti.

º6 Lliaws y camelod a’th orchuddiant, sef cyflym gamelod Midian ac Effa; hwynt oll o Seba a ddeuant; aur a thus a ddygant; a moliant yr ARGLWYDD a fynegant.

º7 Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti, hyrddod Nebaioth a’th wasanaethant: hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor, a mi a anrhydeddaf dy fy ngogoniant.

º8 Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel ewmwl, ac fel colomennod i’w ffenestri?

º9 Yn ddiau yr ynysoedd a’m disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a’u haur gyda hwynt, i enw yr ARGLWYDD dy DDUW, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di.

º10 A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a’u brenhinoedd a’th wasanaeth¬ant; canys yn fy nig y’th drewais, ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt.

º11 Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd.

º12 Canys y genedl a’r deyrnas