Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/706

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ni’th wasanaetho di, a ddifethir; a’r cenhed¬loedd hynny a lwyr ddinistrir.

º13 Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd le fy nhraed.

º14 A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a’r rhai oll a’th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a’th alwant yn Ddinas yr ARGLWYDD, yn Seion Sanct Israel.

º15 lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i’r holl genedlaethau.

º16 Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob. ‘

º17 Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle * haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a’th drethwyr yn gyfiawn.

º18 Ni chlywir mwy son am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a eiwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a’th byrth yn Foliant.

º19 Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a’th DDUW yn ogoniant i ti.

º20 Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.

º21 Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder.

º22 Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genedl gref. Myfi yr ARGLWYDD a brysuraf hynny yn ei amser.


PENNOD 61

º1 YSBRYD yr ARGLWYDD DDUW sydd arnaf; oherwydd yr ARGLWYDD a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd; efe a’m hanfonodd i rwymo y rhai ysig eu calon, i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym;

º2 I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr ARGLWYDD, a dydd dial ein Duw ni; i gysuro pob galarus;

º3 I osod i alarwyr, Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr ARGLWYDD, fel y gogonedder ef.

º4 Adeiladant hefyd yr hen ddiffeithfa, cyfodant yr anghyfanheddfa gynt, ac adnewyddant ddinasoedd dinaith, ac anghyfanhedd-dra llawer oes.

º5 A dieithriaid a safant ac a borthant eich praidd, a meibion dieithr fydd arddwyr a gwinllanwyr i chwi.

º6 Chwithau a elwir yn offeiriaid i’r ARGLWYDD: Gweinidogion ein Duw ni, meddir wrthych; golud y cenhedloedd a fwynhewch, ac yn eu gogoniant hwy yr ymddyrchefwch.

º7 Yn lle eich cywilydd y cewch ddauddyblyg; ac yn lle gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan: am hynny yn y tir y meddiannant ran ddwbl; llawenydd tragwyddol fydd iddynt.

º8 Canys myfi yr ARGLWYDD a hoffaf gyfiawnder; yr wyf yn casáu trais yn boethoffrwrn, ac a gyfarwyddaf eu gwaith mewn gwirionedd, ac a wnaf a hwynt gyfamod tragwyddol.

º9 Eu had hwynt hefyd a adwaenir ymysg y cenhedloedd, a’u hiliogaeth hwynt yng nghanol y bobl: y rhai a’u gwelant a’u hadwaenant, mai hwynt-hwy yw yr had a fendithiodd yr ARGLWYDD.

º10 Gan lawenychu y llawenychaf yn yr ARGLWYDD, fy enaid a orfoledda yn fy NUW: canys gwisgodd fi a gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo a harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch a’i thiysau.

º11 Canys megis y gwna y ddaear i’w gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd i’w hadau egino, felly y gwna yr Arglwydd IOR i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.


PENNOD 62