Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/711

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

LLYFR Y PROFFWYD JEREMEIA

PENNOD 1

1:1 Geiriau Jeremeia mab Hilceia, o’r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth, o fewn tir Benjamin:

1:2 Yr hwn y daeth gair yr ARGLWYDD ato, yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o’i deyrnasiad ef.

1:3 Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim Blab Joseia brenin Jwda, nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda, hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis.

1:4 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

1:5 Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a’th adnabûm; a chyn dy ddyfod o’r groth, y sancteiddiais di; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd.

1:6 Yna y dywedais, O Arglwydd DDUW, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi.

1:7 Ond yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf, a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi.

1:8 Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: Canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr ARGLWYDD.

1:9 Yna yr estynnodd yr ARGLWYDD ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di.

1:10 Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.

1:11 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi.

1:12 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni.

1:13 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais. Mi a welaf grochan berwedig, a’i wyneb tua’r gogledd.

1:14 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir.

1:15 Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem, ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda.

1:16 A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn, am holl anwiredd y rhai a’m gadawsant, ac a arogl-darthasant i dduwiau eraill, ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain.

1:17 Am hynny gwregysa dy lwynau, a chyfod, a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti: na arswyda eu hwynebau, rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt.

1:18 Canys wele, heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog, ac yn golofn haearn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda, yn erbyn ei thywysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tir.

1:19 Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared, medd yr ARGLWYDD.


PENNOD 2

2:1 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,

2:2 Cerdda, a llefa yng nghlustiau Jerw¬salem, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD. Cofiais di, caredigrwydd dy ieuenctid, a serch dy ddyweddi, pan y’m canlynaist yn y diffeithwch, mewn tir ni heuwyd.