Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/712

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

2:3 Israel ydoedd sancteiddrwydd i’r ARGLWYDD, a blaenffrwyth ei gnwd ef: pawb oll a’r a’i bwytao, a bechant; drwg a ddigwydd iddynt, medd yr ARGLWYDD.

2:4 Gwrandewch air yr ARGLWYDD, tŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel.

2:5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi, gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf, a rhodio ar ôl oferedd, a myned yn ofer?

2:6 Ac ni ddywedant, Pa le y mae yr AR¬GLWYDD a’n dug ni i fyny o dir yr Aifft; a’n harweiniodd trwy yr anialwch; trwy dir diffaith, a phyllau; trwy dir sychder, a chysgod angau; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dyn ynddo?

2:7 Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a’i daioni: eithr pan ddaethoch i mewn, halogasoch fy nhir i, a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd-dra.

2:8 Yr offeiriaid ni ddywedasant, Pa le y mae yr ARGLWYDD? a’r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi: y bugeiliaid hefyd a droseddasant i’m herbyn, a’r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal, ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd.

2:9 Oblegid hyn, mi a ddadleuaf a chwi eto, medd yr ARGLWYDD; ie, dadleuaf â meibion eich meibion chwi.

2:10 Canys ewch dros ynysoedd Chittim, ac edrychwch; a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd, ac edrychwch a fu y cyfryw beth.

2:11 A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd.

2:12 O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr ARGLWYDD.

2:13 Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a’m gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.

2:14 Ai gwas ydyw Israel? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe? paham yr ysbeiliwyd ef?

2:15 Y llewod ieuainc a ruasant arno, ac a leisiasant; a’i dir ef a osodasant yn anrhaith, a’i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd.

2:16 Meibion Noff hefyd a Thahapanes a dorasant dy gorun di.

2:17 Onid tydi a beraist hyn i ti dy hun, am wrthod ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, pan ydoedd efe yn dy arwain ar hyd y ffordd?

2:18 A’r awr hon, beth sydd i ti a wnelych yn ffordd yr Aifft, i yfed dwfr Nilus? a pheth sydd i ti yn ffordd Asyria, i yfed dwfr yr afon?

2:19 Dy ddrygioni dy hun a’th gosba di, a’th wrthdro a’th gerydda: gwybydd dithau a gwêl, mai drwg a chwerw ydyw gwrthod ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, ac nad ydyw fy ofn i ynot ti, medd Ar¬glwydd DDUW y lluoedd.

2:20 Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog.

2:21 Eto myfi a’th blanaswn yn bêr winwydden, o’r iawn had oll: pa fodd gan hynny y’th drowyd i mi yn blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr?

2:22 Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr, a chymryd i ti lawer o sebon; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i, medd yr Ar¬glwydd DDUW.

2:23 Pa fodd y dywedi, Ni halogwyd fi, ac nid euthum ar ôl Baalim? Edrych dy ffordd yn y glyn, gwybydd beth a wnaethost; camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd.

2:24 Asen wyllt wedi ei chynefino â’r anialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt, wrth ei hachlysur pwy a’i try ymaith? pawb a’r a’i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mis y cânt hi.

2:25 Cadw dy droed rhag noethni, a’th geg rhag syched. Tithau a ddywedaist, Nid oes obaith. Nac oes: canys cerais ddieithriaid, ac ar eu hôl hwynt yr af fi.

2:26 Megis y cywilyddia lleidr pan ddalier ef, felly y cywilyddia tŷ Israel, hwynt-hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, a’u hoffeiriaid, a’u proffwydi;

2:27 Y rhai a ddywedant wrth bren, Tydi yw fy nhad; ac wrth garreg, Ti a’m cenhedlaist. Canys hwy a droesant ataf wegil, ac nid wyn-