Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/715

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

diffaethwch tua merch fy mhobl, nid i nithio, ac nid i buro;

4:12 Gwynt llawn o’r lleoedd hynny a ddaw ataf fi: weithian hefyd myfi a draethaf farn yn eu herbyn hwy.

4:13 Wele, megis cymylau y daw i fyny, a’i gerbydau megis corwynt: ei feirch sydd ysgafnach na’r eryrod. Gwae nyni! Canys ni a anrheithiwyd.

4:14 O Jerwsalem, golch dy galon oddi wrth ddrygioni, fel y byddech gadwedig: pa hyd y lletyi o’th fewn goeg amcanion?

4:15 Canys llef sydd yn mynegi allan o Dan, ac yn cyhoeddi cystudd allan o fynydd Effraim.

4:16 Coffewch i’r cenhedloedd, wele, cyhoeddwch yn erbyn Jerwsalem, ddyfod gwylwyr o wlad bell, a llefaru yn erbyn dinasoedd Jwda.

4:17 Megis ceidwaid maes y maent o amgylch yn ei herbyn; am iddi fy niclloni, medd yr ARGLWYDD.

4:18 Dy ffordd di a’th amcanion a wnaethant hyn i ti: dyma dy ddrygioni di, am ei fod yn chwerw, am ei fod yn cyrhaeddyd hyd at dy galon di.

4:19 Fy mol, fy mol; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon; mae fy nghalon yn terfysgu ynof: ni allaf dewi, am i ti glywed sain yr utgorn, O fy enaid, a gwaedd rhyfel.

4:20 Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd; canys yr holl dir a anrheithiwyd: yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i, a’m cortenni yn ddiatreg.

4:21 Pa hyd y gwelaf faner, ac y clywaf sain yr utgorn?

4:22 Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i, meibion angall ydynt, ac nid deallgar hwynt: y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant.

4:23 Mi a edrychais ar y ddaear, ac wele, afluniaidd a gwag oedd; ac ar y nefoedd, a goleuni nid oedd ganddynt.

4:24 Mi a edrychais ar y mynyddoedd, ac wele, yr oeddynt yn crynu; a’r holi fryniau a ymysgydwent.

4:35 Mi a edrychais, ac wele, nid oedd dyn, a holl adar y nefoedd a giliasent.

4:26 Mi a edrychais, ac wele y doldir yn anialwch, a’i holl ddinasoedd a ddistrywiasid o flaen yr ARGLWYDD, gan lidiowgrwydd ei ddicter ef.

4:27 Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Y tir oll fydd diffeithwch: ac eto ni wnaf ddiben.

4:28 Am hynny y galara y ddaear, ac y tywylla y nefoedd oddi uchod: oherwydd dywedyd ohonof fi. Mi a’i bwriedais, ac ni bydd edifar gennyf, ac ni throaf oddi wrtho.

4:29 Rhag trwst y gwŷr meirch a’r saethyddion y ffy yr holl ddinas; hwy ânt i’r drysni, ac a ddringant ar y creigiau: yr holl ddinasoedd a adewir, ac heb neb a drigo ynddynt.

4:30 A thithau yr anrheithiedig, beth a wnei? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad, er i ti ymdrwsio â thlysau aur, er i ti liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer y’th wnei dy hun yn deg; dy gariadau a’th ddirmygant, ac a geisiant dy einioes.

4:31 Canys clywais lef megis gwraig yn esgor, cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf, llef merch Seion yn ochain, ac yn lledu ei dwylo, gan ddywedyd, Gwae fi yr awr hon! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid.


PENNOD 5

5:1 Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnei farn, a gais wirionedd, a myfi a’i harbedaf hi.

5:2 Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr ARGLWYDD, eto yn gelwyddog y tyngant.

5:3 O ARGLWYDD, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a’u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.

5:4 A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr ARGLWYDD, na barn eu Duw.

5:5 Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a-wybuant ffordd yr ARGLWYDD, a barn eu Duw: eithr y rhai hyn a gyd-dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau.

5:6 Oblegid hyn llew o’r coed a’u tery hwy, blaidd o’r anialwch a’u distrywia hwy, llewpard a wylia ar