eu dinasoedd hwy: pawb a’r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.
5:7 Pa fodd y’th arbedwn am hyn? dy blant a’m gadawsant i, ac a dyngasant i’r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynr, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain.
5:8 Oeddynt fel meirch porthiannus y bore, gweryrent bob un ar wraig ei gymydog.
5:9 Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
5:10 Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei murganllawiau hi: canys nid eiddo’r ARGLWYDD ydynt.
5:11 Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr ARGLWYDD.
5:12 Celwyddog fu.mt yn erbyn yr AR¬GLWYDD, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn:
5:13 A’r proffwydi a fuant fel gwynt, a’r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy.
5:14 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD DDUW y lluoedd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân, a’r bobl hyn yn gynnud, ac efe a’u difa hwynt.
5:15 Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr ARGLWYDD; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, aco ni ddeelli beth a ddywedant.
5:16 Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll.
5:17 A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dioda hi â’r cleddyf .
5:18 Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.
5:19 A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr ARGLWYDD ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi.
5:20 Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddy¬wedyd,
5:21 Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant:
5:22 Onid ofnwch chwi fi? medd yr ARGLWYDD: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?
5:23 Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt-hwy a giliasant, ac a aethant ymaith.
5:24 Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr ARGLWYDD ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.
5:25 Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych.
5:26 Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant.
5:27 Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant.
5:28 Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus.
5:29 Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl a hon?
5:30 Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir:
5:31 Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a’m pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?
PENNOD 6