Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/719

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ynt, y dydd y dygais hwynt o dir yr Aifft, am boethoffrymau neu aberthau:

7:23 Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a mi a fyddaf DDUW i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minnau; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmyn¬nais i chwi, fel y byddo yn ddaionus i chwi.

7:24 Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngasant eu clust, ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus, ac aethant yn ôl, ac nid ymlaen.

7:25 O’r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi, bob dydd’gan foregofli, ac anfon:

7:26 Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu dust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na’u tadau.

7:27 Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt; ond ni wrandawant arnat: gelwi hefyd arnynt; ond nid atebant di.

7:28 Eithr ti a ddywedi wrthynt, Dyma genedl ni wrendy ar lais yr ARGLWYDD ei Duw, ac ni dderbyn gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymaith o’u genau hwynt.

7:29 Cneifia dy wallt, O Jerwsalem, a bwrw i ffordd; a chyfod gwynfan ar y lleoedd uchel: canys yr ARGLWYDD a fwriodd i ffordd ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint.

7:30 Canys meibion Jwda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg, medd yr ARGLWYDD: gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef.

7:31 A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet, yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom, i losgi eu meibion a’u merched yn tân, yr hyn ni orchmynnais, ac ni feddyliodd fy nghalon.

7:32 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, na elwir hi mwy Toffet, na glyn mab Hinnoin, namyn glyn lladdedigaeth; canys claddant o fewn Toffet, nes bod eisiau lle.

7:33 A bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear, ac ni bydd a’u tarfo.

7:34 Yna y gwnaf i lais llawenydd, a llais digrifwch, llais priodfab, a llais priodferch, ddarfod allan o ddinasoedd Jwda, ac o heolydd Jerwsalem; canys yn anrhaith y bydd y wlad.


PENNOD 8

8:1 Yn yr amser hwnnw, medd yr AR¬GLWYDD, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerw¬salem, allan o’u beddau.

8:2 A hwy a’u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a’r rhai a wasanaethasant, a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a’r rhai a geisiasant, a’r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.

8:3 Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd ARGLWYDD y lluoedd.

8:4 Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel?

8:5 Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd;.

8:6 Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i’w yrfa, megis march yn rhuthro i’r frwydr.

8:7 Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a’r aran, a’r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr AR¬GLWYDD.

8:8 Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr ARGLWYDD sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion.:

8:9 Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele gwrthodasant air yr ARGLWYDD; a pha ddoethineb sydd ynddynt?

8:10 Am hynny y rhoddaf eu gwrag-