edd hwynt i eraill, a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno: canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.
8:11 Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch.
8:12 A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd-dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr ARGLWYDD.
8:13 Gan ddifa y difaf hwynt, medd yr ARGLWYDD; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a’r ddeilen a syrth; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.
8:14 Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i’r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr AR¬GLWYDD ein Duw a’n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl i’w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr ARGLWYDD.
8:15 Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn.
8:16 O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a’r rhai sydd yn trigo ynddi.
8:17 Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i’ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a’ch brathant chwi, medd yr ARGLWYDD.
8:18 Pan ymgysurwn yn erbyn gofid,. fy nghalon sydd yn gofidio ynof.
8:19 Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr ARGLWYDD yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y’m digiasant a’u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?
8:20 Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.
8:21 Am friw merch fy mhobl y’m briwyd i: galerais; daliodd synder fi.
8:22 Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?
PENNOD 9
9:1 O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl!
9:2 O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddi wrthynt! canys hwynt oll ydynt odinebus, a chymanfa anffyddloniaid.
9:3 A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant fi, medd yr ARGLWYDD.
9:4 Gochelwch bawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus.
9:5 Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a’r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymfliniasant yn gwneuthur anwiredd.
9:6 Dy drigfan sydd yng nghanol twyll: oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr ARGLWYDD.
9:7 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd; Wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt; canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl?
9:8 Saeth lem yw eu tafod hwy, yn dywedyd twyll: â’i enau y traetha un heddwch with ei gymydog, eithr o’i fewn y gesyd gynllwyn iddo.
9:9 Onid ymwelaf â hwynt am hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
9:10 Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a’r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith.
9:11 A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau ac yn drigfan dreigiau; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd.