Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/721

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

9:12 Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr ARGLWYDD wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd?

9:13 A dywedodd yr ARGLWYDD, Am wrthod ohonynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi,

9:14 Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt:

9:15 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Wele, mi a’u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl.

9:16 Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na’u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.

9:17 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod,

9:18 A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr.

9:19 Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y’n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i’n trigfannau ein bwrw ni allan.

9:20 Eto gwrandewch air yr ARGLWYDD, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i’ch merched, a galar bob un i’w gilydd.

9:21 Oherwydd dringodd angau i’n ffenestri, ac efe a ddaeth i’n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a’r gwŷr ieuainc o’r heolydd.

9:22 Dywed, Fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.

9:23 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryfyn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth;

9:24 Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr ARGLWYDD a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr ARGLWYDD.

9:25 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â’r rhai dienwaededig;

9:26 A’r Aifft, ac â Jwda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac â’r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf, a’r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig, a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig.


PENNOD 10

10:1 Gwrandewch y gair a ddywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, tŷ Israel:

10:2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd, ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy.

10:3 Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o’r coed, gwaithllaw y saer, â bwyell.

10:4 Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo.

10:5 Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt.

10:6 Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, ARGLWYDD: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid.

10:7 Pwy ni’th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi.

10:8 Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff.

10:9 Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo’r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll.

10:10 Eithr yr ARGLWYDD ydyw y gwir DDUW, efe yw y Duw byw,